Mae’n amser i bleidleisio am eich chwaraewr y mis Olew Dros Gymru ar gyfer mis Mai.
Cychwynnodd mis Mai gyda’r fuddugoliaeth yn erbyn y Gweilch mewn gêm gartref egnïol, ond colli yn erbyn Gleision Caerdydd gan fethu cipio’r sgôr i droi’r gêm ar ei ben wrth golli o 29-28.
Roeddwn i fod i wynebu Ulster allan yn Belfast penwythnos diwethaf yn ein pedwaredd gêm yng Nghwpan yr Enfys, ond yn anffodus cafodd ei ganslo oherwydd nifer o brofion positif o Covid-19 yng ngharfan Ulster.
Dyma’r chwaraewyr sydd yn cystadlu am y wobr mis yma
Dane Blacker
Enillydd y wobr ar gyfer mis Ebrill, mae Dane wedi parhau i berfformio ar ei orau, gan groesi yn erbyn y Gleision i ddod a’i gyfanswm o geisiadau’r tymor yma i naw.
Ryan Elias
Un o’n chwaraewyr mwyaf cyson ar hyd y misoedd diwethaf, mae’r bachwr wedi profi ei hun ers dychwelyd o’i ddyletswydd Chwe Gwlad gan arwain o’r blaen yn erbyn Caerdydd.
Kieran Hardy
Yn dilyn perfformiad tactegol yn erbyn y Gweilch fe lwyddodd y mewnwr i ennill gwobr seren y gêm yn dilyn y fuddugoliaeth.
Leigh Halfpenny
Mae’r chwaraewr rhyngwladol Cymru a’r Llewod wedi profi ei hun fel un o gicwyr gorau’r gêm. Chwaraeodd rhan enfawr yn y fuddugoliaeth yn erbyn y Gweilch.
Enillwyr blaenorol o’r wobr yw: Sione Kalamafoni (Ionawr), Jac Morgan (Chwefror), Steff Hughes (Mawrth) a Dane Blacker (Ebrill).
Gallwch bleidleisio am ei chwaraewr y mis ar ein cyfrif Trydar ar @scarlets_rugby