Mae tair rheol newydd wedi’i chytuno gan World Rugby i’w ddefnyddio yng nghystadleuaeth Cwpan yr Enfys Guinness PRO14 – Eilyddion Cerdyn Coch, Her y Capten a ‘Goal-line drop-outs’.
Mae’r rheolau yma yn barod yn cael ei ddefnyddio o fewn Super Rugby Aotearoa ac Super Rugby AU ac mae World Rugby yn annog eu defnydd er mwyn gwella’r gêm.
Dywedodd Alan Gilpin, CEO of World Rugby: “We applaud PRO14 Rugby and the respective clubs for their enthusiasm to trial a number of law variations in the Rainbow Cup. The addition of another top competition to the World Rugby law trials programme will provide invaluable data and feedback to determine future advances to game spectacle and player welfare.”
Dywedodd David Jordan, Tournament Director of PRO14 Rugby: “Our Sports & Regulatory Committee have been very proactive in identifying opportunities to introduce game innovations and we’re looking forward to implementing these trials during the Guinness PRO14 Rainbow Cup. We know these laws also have their origins from the Player Welfare Symposiums and our belief is that we will see a positive impact on the game overall.”
Esboniad o’r rheolau newydd
Eilydd am gerdyn coch ar ôl 20 munud
Am gardiau coch bydd y chwaraewr troseddol yn cael ei ddanfon oddi’r cae am 20 munud. Ar ôl yr amser hwn bydd y tîm yn cael eilyddio’r chwaraewr hyn gydag un o’r eilyddion a enwebwyd.
Her y Capten
Mae Her y Capten am wella cywirdeb penderfyniadau gan y dyfarnwyr. Bydd pob tîm yn cael defnyddio un her ym mhob gêm. Gall y rhain cael ei ddefnyddio am gais neu chwarae brwnt, neu i herio unrhyw benderfyniad gan y dyfarnwr o fewn y pum munud olaf o’r gêm.
Bydd y dyfarnwr teledu yn beirniadu’r her gan ddefnyddio clipiau o’r gêm gyda’r dyfarnwr gêm yn gwneud y penderfyniad olaf. Os ydy’r her yn llwyddiannus, bydd y tîm yn cael cadw ei her am weddill y gêm ond os ydy’n aflwyddiannus bydd y tîm yn colli ei her. Mae’r her ond yn cael ei ddefnyddio hyd at 20 eiliad ar ôl i’r dyfarnwr chwythu’r chwiban am stopio’r chwarae a dim ond digwyddiadau o’r chwarae diwethaf sydd yn gallu cael ei herio.
Beth fydd ddim yn gallu cael ei herio
– Pan mae ailddechreuad wedi cychwyn gan gynnwys ‘quick tap’ neu ‘quick throw in’ wedi digwydd, felly mae’r tîm wedi penderfynu chwarae’n gyflym.
– Pan nad ydy’r dyfarnwr yn chwythu’r chwiban am benderfyniad ac mae’r chwarae yn parhau (heb law os oes chwarae brwnt)
– Nad yw penderfyniadau’r darn gosod yn cael ei herio oherwydd maent yn benderfyniadau technegol sydd yn gallu achosi sawl canlyniad yn seiliedig ar ddehongliadau’r chwaraewyr neu’r dyfarnwr
Goal-line drop-out
Os yw’r bêl wedi’i dal i fyny dros y llinell, taro ymlaen sydd yn digwydd o fewn gôl neu pan mae’r bêl wedi’i dirio gan chwaraewr amddiffynnol o fewn yr ardal gôl yn dilyn cic trwy, bydd y tîm amddiffynnol yn gallu cymryd ‘drop-out’ o unrhyw le ar y llinell gais.