Cadarnhawyd y Scarlets ei bod wedi dod i gytundeb gyda’r hyfforddwr ymosod Richard Whiffin iddo adael y clwb.
Ymunodd â’r clwb o Academi Gloucester yn 2019 ac fe dreuliodd dau dymor fel rhan o’r tîm hyfforddi ym Mharc y Scarlets.
Dywedodd rheolwr cyffredinol rygbi’r Scarlets Jon Daniels: “Hoffwn ddiolch Rich am ei ymrwymiad i’r Scarlets ar hyd y blynyddoedd a dymunwn yn dda iddo ar y bennod nesaf o’i yrfa.”
Ychwanegodd Richard Whiffin: “Mae wedi bod yn bleser i hyfforddi grwp o chwaraewyr gwych dros y ddwy flynedd diwethaf. Rydym wedi mwynhau sawl foment gwych a chanlyniadau anhygoel, gyda’r gemau darbi Nadolig Connacht a Bath yn sefyll allan. Dymunaf pob lwc i’r clwb a’r chwaraewyr a phob lwc gyda’r tymor newydd.”