Ry’n ni’n falch iawn cadarnhau bod gyda ni becyn teithio cefnogwyr ar gyfer rownd derfynol Guinness PRO14 yn Nulyn ar ddydd Sadwrn 26ain Mai.
Mae gyda ni bedwar bws ar gadw a llefydd mewn gwesty ar gyfer y penwythnos.
Fe fydd y trip dwy noson, gwely a brecwast, yn gadael Llanelli ddydd Gwener ac yn dychwelyd dydd Sul. Pris y daith yw £239 y pen yn seiliedig ar dau berson yn rhannu. Nid yw’r pris yn cynnwys tocyn gêm.
I gofrestru eich diddordeb ebostiwch [email protected]