Cynhaliwyd Stadiwm y Principality diwrnod i’r wasg ar gyfer y Bencampwriaeth Rygbi Unedig wythnos yma.
Y bachwr Ryan Elias chwifiodd baner y Scarlets, gan sgwrsio i ddarlledwyr BBC Wales, S4C a Premier Sports yn ogystal â newyddiadurwyr ysgrifenedig.
Dyma beth oedd ganddo i’w ddweud.
Sut wyt ti’n teimlo gyda ychydig dros wythnos i fynd nes ddechrau tymor yr URC?
“Dwi’n teimlo’n dda. Ges i cwpl o wythnosau bant a fe briodais dros yr haf. Cafodd y briodas ei ohirio am flwyddyn ond roedd y diwrnod werth yr aros. Cawsom ddiwrnod hyfryd gyda’r haul yn sgleinio. O ran ymarferion, mae wedi bod yn eithaf anodd gyda’r hyfforddwyr newydd yn dod i mewn, ond er hyn mae wedi bod yn dda. Edrychwn ymlaen at allu rhoi beth i ni wedi dysgu yn ymarferion i mewn i’n perfformiad yn y gêm.
Faint o effaith mae Dwayne Peel wedi cael mor belled?
“Mae Dwayne yn falch iawn o’i gynefin ac mae hynny’n ymddangos yn y chwaraewyr hefyd. Mae wedi rhoi llawer o waith i ni, roedd ganddo foeseg gwaith da fel chwaraewr ac yn canolbwyntio ar sicrhau ein ffitrwydd fel garfan. Roedd Dwayne yn ymfalchio yn ein ffitrwydd fel chwaraewr a gyda Nigel (Ashley-Jones) yn dod o rygbi league yn Awstralia, mae’r garfan wedi cael shiglad! Er hynny i ni wedi mwynhau, roedd eu angen arnom. Mae’r cynnwys rygbi wedi bod yn dda hefyd. Mae Dwayne yn dda at gadw pethau’n syml a torri pethau i lawr trwy ffocysu ar beth sy’n angenrheidiol yn y gêm.”
Wyt ti’n edrych ymlaen at y syniad o chwarae yn erbyn ‘big four’ y De Affrig?
“Mae’n gyffroes i weld y pedwar tîm mawr o’r De Affrig yn ymuno’r gystadleuaeth. Mae ganddyn nhw pacs mawr, ond hefyd gyda’r gallu i rhyddhau’r bel o hamgylch y cae ac mae eu chwaraewyr yn enfawr! Mae mynd i fod yn her arbennig ac fydd y tywydd yn chwarae rhan yn y gêm allan yn Ne Affrica.”
Wyt ti’n edrych ymlaen at gystadlu am grys yn erbyn Ken Owens eto?
RE: “Mae Ken wedi cael yn cael gyrfa anhygoel, mae wedi bod ar ddwy daith gyda’r Llewod. Mae gen i lawer o barch at Ken, rydym yn dod ymlaen yn dda, y ddau ohonom o Gaerfyrddin, yr un clwb, yr un ysgol, ond dwi eisiau’r crys yna ac mae’n grêt i’r clwb bod y ddau ohonom yn cystadlu am y crys. Dwi’n teimlo fod mod yn eithaf ifanc yn 26 oed, ac er i mi gael dros 100 ymddangosiad i’r Scarlets a chwpl o gapiau i Gymru, o ran munudau dwi heb chwarae llawer fawr o rygbi, dwi’n teimlo’n ffres yn fy nghorff ac yn fy meddwl.”
Oes gen ti unrhyw nodau ar gyfer y tymor?
RE: “Fel carfan nad ydym wedi sôn am dargedau, rydym wedi ffocysu ar ein perfformiadau o wythnos i wythnos. Os allwn ddefnyddio beth rydym wedi dysgu o’r ymarferion gobeithio fe all y canlyniadau gwneud y gweddill. Yn amlwg, bydd hi’n grêt i fod ar frig y rhanbarthau Cymraeg eto a cawn weld ble fydd Ewrop yn mynd â ni.
A wnes di fwynhau dy rôl fel capten yng Ngwhpan yr Enfys tymor diwethaf?
RE: “Ro’n i wedi synnu, nes i ddim disgwyl cael fy apwyntio. Ro’n i ddim yn siwr beth i ddisgwyl yn gyntaf, ond wrth edrych nôl fe wnes i fwynhau. Credu wnaeth y cyfrifoldeb helpu fy mherfformiad, rwyt ti’n ymfalchio yn y rôl ac eisiau arwain y bois.
Faint wyt ti’n edrych ymlaen at weld y cefnogwyr yn dychwelyd?
RE: “Mae’n anferthol i gael y cefnogwyr nôl. Er iddi fod yr un peth i bawb, rwy’n credu roedd y golled yn amlwg i ni tymor diwethaf. Mae’r cefnogwyr yn rhoi hwb mawr i ni ac i mi yr amser ar ôl y gêm, yn enwedig ar ôl buddugoliaeth mawr yn darbis Cymraeg neu yn Ewrop, dyna pryd dwi’n cael y buzz mwyaf wrth weld gwên ar wynebau’r dorf. Pan wyt ti’n gweld teulu a ffrindiau hefyd mae hynny’n bwysig. Mae sawl un o’r bois heb chwarae gyda cefnogwyr yn y stadiwm eto felly mae hynny’n gyfnod cyffroes iddyn nhw.”