Y bachwr Ryan Elias siaradodd â’r wasg ar ôl buddugoliaeth 22-19 yn erbyn y Gweilch ar Ionawr y 1af.
Dyma oedd gêm cyntaf y Scarlets ym mhencampwriaeth URC ers y fuddugoliaeth yn erbyn Benetton ar Hydref 22 gyda dwbl gan Johnny McNicholl a ceisiau gan Gareth Davies a Steff Evans a wnaeth selio’r noson.
Dyma beth oedd gan Elias i’w ddweud.
Ryan, fel carfan, mae rhaid eich bod yn hapus iawn gyda’r canlyniad?
“Rydym yn hapus iawn. Nad oedd hi’n gêm rhwydd ond y neges oedd i aros yn y gystadleuaeth.
“Fe ddaethon nhw atom yn galed iawn trwy gydol y gêm i fod yn deg. Yn rhwystredig gan ein bod wedi creu llawer o gyfleoedd yn y ddwy hanner, ond gyda sawl pás yn cwympo fe aeth y bel nôl atyn nhw.
“Siaradon am y disgyblaeth ar yr hanner wrth iddyn nhw weithredu’n dda pan yn cicio at y cornel. Roedd y tîm yn hapus i gael y fuddugoliaeth yn y diwedd.”
Shwd mae’r corff ar ôl ddim chwarae am gymaint o amser?
“Fe deimlai’r poen yn y bore. Mae rhyw dwy fis wedi mynd heibio ers i mi chwarae diwethaf, ac i sawl chwaraewr arall mae hyd yn oed fwy o amser wedi bod.
‘I ni’n ffit achos ni’n rhedeg cymaint yn ystod ymarferion ond ar yr un pryd mae’n wahanol iawn mewn gêm wrth iddi fod mor gorfforol yn enwedig yn erbyn y Gweilch a’r ffordd maen nhw eisiau chwarae.
“Fe wnaeth hynny tynnu llawer o egni mas yn yr hanner cyntaf, ond fe ailgudiwn, ac ymddiried yn ein systemau a cipio’r fuddugoliaeth yn y diwedd.”
Fe wnaeth dy ffitrwydd chwarae rhan enfawr yn y 10 munud
“Dyna’r ffordd i ni eisiau chwarae. Rydym eisiau mynd i’r eithaf. Rhaid ymddiried yn ein ffitrwydd a gweithio’n galed dros yr wythnosau. Dw i’n hapus iawn gyda’r lefel o ffitrwydd.
“Mae’r bois yn ddiolchgar i ddod i ffwrdd gyda’r fuddugoliaeth. Rhaid credu yn ein gwaith a’r steil o chwarae. Meddylfryd bositif sy’n bwysig ar ddiwrnod gêm a troi i fyny.”
Beth am ymddangosiad cyntaf Harri O’Connor?
“Chwarae teg iddo, cafodd gêm fawr i ni. Cymerodd ei gyfle wrth i Samson a Javan aros mas. Chwaraeodd llawer i Lanymddyfri yn y gynghrair, ac yn chwarae’n dda bob wythnos. Cymerodd ei gyfle heno. Mae Dwayne a’r bois yn falch iawn ohono.”
Pa mor bwysig ydy hi i adeiladu ar hyn wrth edrych ymlaen at y gêm nesaf yn erbyn y Dreigiau?
“Rydym wedi cychwyn y flwyddyn newydd ar y trywydd iawn. Bydd llawer o waith i wneud cyn i ni wynebu’r Dreigiau.
“Mae ganddyn nhw gêm gorfforol iawn, ac yn chwarae llawer o rygbi da, hyd yn oed yn y gemau golledig mae’r tîm wedi troi i fyny. Byddynt yn teimlo’n rhwystredig eu bod nhw heb chwarae wythnos yma felly mi fydd hi’n gêm anodd penwythnos nesaf.”