Saith Scarlet wedi’u henwi yng ngharfan Chwe Gwlad Cymru

Rob LloydNewyddion

Enwir saith Scarlet yng ngharfan 36 dyn Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2022.

Liam Williams, Johnny McNicholl, Jonathan Davies, Gareth Davies, Kieran Hardy, Wyn Jones a Ryan Elias sydd wedi’u cynnwys yng ngharfan Wayne Pivac a fydd yn brwydro i gadw eu teitl fel pencampwyr, sydd yn cychwyn yn Nulyn yn erbyn Iwerddon ar Chwefror 5.

Ymysg y tri chwaraewr di-gap mae’r cyn Scarlet Jac Morgan.

Dan Biggar fydd yn gapten at y garfan yn absenoldeb Alun Wyn Jones sydd wedi’i anafu, a Adam Beard wedi’i enwi yn is-gapten.

Fe all Jonathan Davies, sydd ar hyn o bryd wedi ennill 99 o gapiau Prawf i Gymru a’r Llewod, cyrraedd ei 100fed cap yn ystod yr ymgyrch.

Dywedodd prif hyfforddwr Cymru Wayne Pivac: “Rydym yn edrych ymlaen i ddod nôl at ein gilydd fel carfan ar Ddydd Llun. Mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn gystadleuaeth arbennig iawn ac i ni eisiau ennill fel pob genedl. Gyda twrnamaint fel hyn, mae’n bwysig i weithio’n galed yn yr ymarferion a paratoi’n dda bob wythnos.

“Llynedd fe wnaeth y Chwe Gwlad cynnig digon o gyffro i gefnogwyr gyda llawer o geisiau, ac wrth i ni wybod bod gennym pum gêm anodd o’n blaenau, edrychwn ymlaen at yr her. Gyda’r Cwpan y Byd ar y gorwel blwyddyn nesaf, bydd pob gêm yn bwysig iawn am ddatblygiad tuag at Ffrainc.

Bydd y garfan yn cwrdd yn Hensol ar Ddydd Llun

Mae niferoedd cyfyngedig o docynnau ar ôl ar gyfer gemau cartref Cymru yn Stadiwm Principality trwy clybiau aelodau’r URC neu wru.wales/tickets 

CARFAN CHWE GWLAD 2022 CYMRU

Blaenwyr (20)

Rhys Carre (Cardiff Rugby – 16 caps), Wyn Jones (Scarlets – 38 caps),  Gareth Thomas (Ospreys – 5 caps) , Ryan Elias (Scarlets – 23 caps), Dewi Lake (Ospreys – uncapped), Bradley Roberts (Ulster Rugby – 1 cap) , Leon Brown (Dragons – 16 caps), Tomas Francis (Ospreys – 60 caps), Dillon Lewis (Cardiff Rugby – 34 caps), , Adam Beard (Ospreys – 29 caps), vice-captain, Ben Carter (Dragons – 5 caps) , Seb Davies (Cardiff Rugby – 13 caps), Will Rowlands (Dragons – 13 caps), Christ Tshiunza (Exeter Chiefs – 2 caps), Taine Basham (Dragons – 7 caps), Ellis Jenkins (Cardiff Rugby – 14 caps), Jac Morgan (Ospreys – uncapped), Ross Moriarty (Dragons – 49 caps), James Ratti – (Cardiff Rugby – uncapped), Aaron Wainwright (Dragons – 34 caps)

Cefnwyr (16)

Gareth Davies (Scarlets – 65 caps), Kieran Hardy (Scarlets – 8 caps), Tomos Williams (Cardiff Rugby – 29 caps), Gareth Anscombe (Ospreys – 29 caps), Dan Biggar (Northampton Saints – 95 caps), captain, Rhys Priestland (Cardiff Rugby – 52 caps), Callum Sheedy (Bristol Bears – 13 caps), Jonathan Davies (Scarlets – 93 caps), Uilisi Halaholo (Cardiff Rugby – 9 caps) , Nick Tompkins (Saracens – 16 caps), Owen Watkin (Ospreys – 26 caps), Josh Adams (Cardiff Rugby – 35 caps), Alex Cuthbert (Ospreys – 48 caps), Louis Rees-Zammit (Gloucester Rugby – 12 caps), Johnny McNicholl (Scarlets – 8 caps), Liam Williams (Scarlets – 74 caps)

Chwaraewyr sydd ddim ar gael oherwydd anaf

Elliott Dee, Ken Owens, Alun Wyn Jones, Taulupe Faletau, Dan Lydiate, Josh Macleod, Josh Navidi, Justin Tipuric, Johnny Williams, George North, Leigh Halfpenny