Sam Lousi sydd wedi ennill eich pleidlais Chwaraewr y Mis Olew dros Gymru am fis Ionawr.
Enillodd y chwaraewr ail reng 43% o’r bleidlais cyhoeddus, gan faeddu’r cystadleuaeth wrth Sione Kalamafoni, Johnny McNicholl a Samson Lee.
Dechreuodd ym mhob un o gemau mis Ionawr, gan roi perfformiad anhygoel yn erbyn y Gweilch ar Ionawr y 1af.
Mae Sam yn ymuno â’r canolwr Scott Williams fel enillydd blaenorol y wobr.
Fel rhan o’i wobr, bydd Sam yn rhoi crys wedi’i lofnodi i elusen o’i ddewis.