Mae Liam Williams yn dychwelyd i dîm Cymru fel un o’r pump Scarlets sydd wedi’u henwi yn y XV i ddechrau yn erbyn yr Alban yn yr ail rownd o’r Chwe Gwlad ar ddydd Sadwrn.
Collodd Williams y fuddugoliaeth yn erbyn Iwerddon ar ddydd Sul oherwydd ei waharddiad, ond mae Liam wedi ei gynnwys am y penwythnos fel un o’r pum newid i’r tîm.
Mae’r tîm hefyd yn cynnwys mewnwr Gareth Davies sydd yn cymryd lle Tomos Williams sydd wedi’i anafu, tra bod Leigh Halfpenny, Ken Owens a seren y gêm yn erbyn y Gwyddelod Wyn Jones yn cadw ei safleoedd yn y tîm.
Roedd Josh Macleod ar drywydd i ennill ei gap cyntaf ym Murrayfield fel blaenasgellwr, ond yn colli’r cyfle oherwydd anaf.
Gyda Johnny Williams, Jonathan Davies a George North wedi’u hanafu, mae Owen Watkin a Nick Tompkins yn creu’r bartneriaeth newydd yng nghanol cae. Gwelir newid arall gyda Aaron Wainwright yn dod i mewn yn lle Dan Lydiate a fydd yn colli gweddill y bencampwriaeth oherwydd anaf cafodd yn ystod y gêm yn erbyn Iwerddon.
Ymysg yr eilyddion, bydd mewnwr y Scarlets Kieran Hardy am wneud ei ymddangosiad cyntaf yn y Chwe Gwlad oddi’r fainc.
“Er i ni ond gael chwe diwrnod i baratoi rydym yn edrych ymlaen at y gêm,” dywedodd Pivac.
“Mae’r nifer o anafiadau yn anffodus iawn ond rhaid i ni weld hyn fel cyfle i’r chwaraewyr newydd.
“Rydym yn teimlo’n flin iawn am Josh (Macleod) a chafodd ei ddewis i ddechrau yn y gêm yma i ennill ei gap cyntaf ond iddo gael ei ddiystyru nes ymlaen y diwrnod hwnnw oherwydd anaf.”
CYMRU: 15 Leigh Halfpenny; 14 Louis Rees-Zammit, 13 Owen Watkin, 12 Nick Tompkins, 11 Liam Williams; 10 Dan Biggar, 9 Gareth Davies; 1 Wyn Jones, 2 Ken Owens, 3 Tomas Francis, 4 Adam Beard, 5 Alun Wyn Jones (capt), 6 Aaron Wainwright 7 Justin Tipuric, 8 Taulupe Faletau.
Eilyddion: 16 Elliot Dee, 17 Rhodri Jones, 18 Leon Brown, 19 Will Rowlands, 20 James Botham, 21 Kieran Hardy, 22 Callum Sheedy, 23 Uilisi Halaholo.
Gyda nifer o anafiadau yng ngharfan yr Alban, bydd Blade Thomson hefyd yn ymddangos yn yr ochr i wynebu ei gyd-chwaraewyr Scarlets.