Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru heno ynglŷn â cyfyngiadau ar ddigwyddiadau chwaraeon, bydd ein darbiau URC cartref yn erbyn y Gweilch ar Ddydd Calan a’r Dreigiau ar Ionawr 8 nawr yn cael ei chwarae y tu ôl i ddrysau caeedig heb unrhyw gefnogwyr yn y stadiwm.
Er mwyn atal mwy o brofion bositif o Covid-19, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ar hanner nos Nos Lun bydd digwyddiadau chwaraeon proffesiynol yn cael eu chwarae heb unrhyw cefnogwyr.
Dywedodd Phil Morgan, Prif Swyddog Gweithredol Scarlets: “Mae hyn yn hynod siomedig i ni i gyd, chwaraewyr, staff, cefnogwyr a phartneriaid masnachol, sydd wedi dangos teyrngarwch anhygoel i ni dros y 18 mis diwethaf. Mae’r derbies Nadoligaidd, yn enwedig ein gêm gartref yn erbyn y Gweilch, bob amser yn achlysuron gwych ac roeddem yn disgwyl dwy o’n torfeydd mwyaf y tymor ar gyfer gemau’r Gweilch a’r Dreigiau. Er y bydd y newyddion hyn yn ergyd ariannol sylweddol arall i’r busnes, iechyd a diogelwch cymuned y Scarlets fydd ein prif flaenoriaeth bob amser.
“Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a gobeithio, pan fydd yn ddiogel, y gallwn groesawu ein cefnogwyr yn ôl i Barc y Scarlets yn fuan.”
Bydd pob Deiliad Tocyn Tymor yn derbyn credyd pro-rata i’w cyfrif, tra bydd prynwyr tocynnau gêm yn derbyn ad-daliad awtomatig. Ni fydd angen i chi gysylltu â swyddfa docynnau’r Scarlets. Dylai ad-daliadau ymddangos yn eich cyfrif banc cyn pen pum diwrnod gwaith.
Bydd ein gêm Dydd San Steffan gyda Rygbi Caerdydd ym Mharc Arfau BT hefyd yn cael ei chwarae y tu ôl i ddrysau caeedig sy’n golygu bod teithio coets i’r gêm wedi’i ganslo. I’r rhai sydd wedi archebu teithio swyddogol trwy’r Scarlets, bydd pob pryniant yn cael ei ad-dalu’n awtomatig yn ystod y pum diwrnod gwaith nesaf.
Bydd y rheoliadau coronafeirws, gan gynnwys chwarae chwaraeon y tu ôl i ddrysau caeedig, yn cael eu hadolygu’n rheolaidd.