Bydd y Scarlets yn chwarae yn erbyn Leicester Tigers mewn gêm gyfeillgar yn Mattioli Woods Welford Road o flaen dechreuad tymor Pencampwriaeth Rygbi Unedig newydd.
Ein prif hyfforddwr Dwayne Peel fydd yn arwain ei garfan i Ddwyrain Canolbarth Lloegr ar ddydd Iau, 9fed o Fedi (CG 7yh).
Y tro diwethaf i’r ddau gwrdd oedd yn nhymor 2018-19 Cwpan Pencampwyr a orffennodd gyda buddugoliaeth gartref.
Mae’r rownd agoriadol o’r URC yn cychwyn ar benwythnos 24-26 o Fedi.