Mae Guinness PRO14 wedi cadarnhau dyddiadau ac amserau gemau’r gystadleuaeth hyd at ac yn cynnwys Rownd 17.
Fe fydd y Scarlets yn dechrau’r bencampwriaeth yn erbyn Ulster yn Stadiwm Southern Kingspan ar ddydd Sadwrn 1af Medi, cic gyntaf 17:15, gan wynebu tîm cyn brif hyfforddwr y rhanbarth a chapten Simon Easterby a’r cyn Scarlet Dwayne Peel.
Wynebu Leinster bydd y rhanbarth yn yr ail rownd ym Mharc y Scarlets gyda chyfle i’r Scarlets wneud yn iawn am y siom o golli’n erbyn y Gwyddelod yn rownd gyn-derfynol Ewrop a rownd derfynol Guinness PRO14 y tymor diwethaf.
Fe fydd y Scarlets yn parhau yn y Parc ar gyfer Rownd 3, gan wynebu Benetton, cyn symud i Galway i wynebu Connacht yn Rownd 4.
Daw gêm ddarbi gynta’r tymor yn Rownd 6 pan fydd y Scarlets yn croesawu’r Gweilch i’r Parc, Sadwrn 6ed Hydref, cic gyntaf 15:00.
Bydd y gêm yn erbyn y Gweilch yn Stadiwm Liberty yn gyfle i bawb fwynhau hwyl yr wyl gyda’r gêm yn cael ei chwarae ar ddydd Sadwrn 22ain Rhagfyr, cic gyntaf 15:00.
Gleision Caerdydd bydd y gwrthwynebwyr yn y Parc am gêm olaf 2018, ar ddydd Sadwrn 29ain Rhagfyr, cic gyntaf 17:15.
Gêm ddarbi arall bydd gêm agoriadol 2019 ym Mharc y Scarlets gyda’r Scarlets yn croesawu’r Dreigiau yn Rownd 13, Sadwrn 5ed Ionawr.
I weld y gemau i gyd ewch i https://www.pro14rugby.org