Scarlets i wynebu Jersey Reds cyn dechrau’r tymor newydd

Kieran LewisNewyddion

Bydd gêm gyntaf Brad Mooar cyn dechrau’r tymor yn Jersey.

Bydd y gêm yn erbyn ochr bencampwriaeth Greene King IPA yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn, Medi 7 yn Stade Santander International yn San Pedr gyda chic gyntaf 3yp.

Nid dyma’r tro cyntaf i’r ddwy ochr gyfarfod cyn y tymor gyda’r Scarlets yn ennill 40-27mewn cyfarfod difyr ar Ynys y Sianel bedair blynedd yn ôl.

Fe orffennodd Jersey Reds yn bedwerydd yn y Bencampwriaeth ail haen y tymor diwethaf ac maent yn gyn-glwb i un o’r Scarlets, Kieran Hardy.

Bydd y Scarlets yn cychwyn eu hymgyrch Guinness PRO14 ar benwythnos 27-29 Medi.

Ar hyn o bryd mae Mooar yn rhan o ymgais y Crusaders am drydydd teitl Super Rugby yn olynol a bydd yn cyrraedd Parc y Scarlets yn ddiweddarach yr haf hwn.