Bydd y Scarlets yn gwynebu’r Dreigiau rhanbarthol mewn gêm cyn tymor yn Rodney Parade cyn eu hymgyrch Guinness PRO14.
Cynhelir y gêm ddydd Sadwrn, Medi 14, gyda’r gic gyntaf i’w chadarnhau.
Hon fydd yr ail gêm ar gyfer yr hyfforddwr newydd Brad Mooar a’i garfan yn dilyn eu hymweliad â Jersey ar 7fed o Fedi.
Mae tymor PRO14 i fod i ddechrau ar benwythnos 27-29 Medi gyda’r rhestr gemau i’w chyhoeddi cyn bo hir.
To join the pack and for all season ticket details go to scarlets.wales