Fe fydd Scarlets dan 18 yn teithio i Ystrad Mynach heno, Mercher 10fed Ionawr, yn gobeithio sicrhau chweched buddugoliaeth o’r bron ym mhencampwriaeth Graddau Oed Undeb Rygbi Cymru.
Mae’r Scarlets, fel y tîm rhanbarthol, ar frig y tabl ar ôl sicrhau pump buddugoliaeth â phwynt bonws yn erbyn y timau rhanbarthol eraill.
Fe fydd gêm heno yn gweld y tîm ar y brig ac yn ail yn y tabl yn mynd wyneb yn wyneb yn Ystrad Mynach gyda’r Dreigiau chwech pwynt tu ôl i’r Scarlets.
Tîm y Scarlets dan 18 i wynebu’r Dreigiau yn Ystrad Mynach ar ddydd Mercher 10fed Ionawr, cic gyntaf 7.15YH;
15 Harri Dole, 14 Liam Cox, 13 Joe Roberts, 12 Osian Knott, 11 Alex Varney, 10 Llew Smith, 9 Dafydd Land, 1 Keelan Jewell, 2 Dom Booth, 3 Adam Thomas, 4 Griff Evans, 5 Jac Price, 6 Iestyn Rees, 7 Gethin Davies ©, 8 Jac Morgan
Eilyddion; 16 Llew Phillips-Taylor, 17 Ollie Robb, 18 Callum Williams, 19 Ryan Evans, 20 Sam Williams, 21 Dai Jones, 22 Bradley Roderick, 23 Eray Wilson