Mae’r gêm Cwpan Pencampwyr Heineken yn erbyn Bordeaux-Begles, trefnwyd ar gyfer Dydd Sul ym Mharc y Scarlets, wedi’i ohirio.
Mae’r penderfyniad yma yn ganlyniad o gyfarfod gan fwrdd EPCR heddiw (Dydd Gwener, 17 Rhagfyr).
Oherwydd yr amgylchiadau, mae’r gemau rownd dau yng Nghwpan Pencampwyr a Chwpan Her EPCR rhwng clybiau Ffrengig a Prydeinig ar Ddydd Sadwrn a Dydd Sul wedi’u gohirio.
Mae hyn o ganlyniad i’r rheolau teithio newydd rhwng y DU a Ffrainc sydd yn cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Ffrengig.
Mae’r Bwrdd wedi derbyn briff gan y tair cynghrair broffesiynol a oedd yn cynnwys gwybodaeth ddiweddaraf o’r llywodraethau, serch hynny, nid oedd sicrwydd digonol na fyddai’r gemau hyn mewn perygl.
Felly, y bwriad yw aildrefnu’r gemau Rownd 2 canlynol i ddyddiad diweddarach:
CWPAN PENCAMPWYR HEINEKEN
Bath Rugby v Stade Rochelais
Sale Sharks v ASM Clermont Auvergne
Scarlets v Union Bordeaux-Bègles
Stade Toulousain v Wasps
Stade Francais Paris v Bristol Bears
CWPAN HER EPCR
Worcester Warriors v Biarritz Olympique
London Irish v CA Brive
Mae’r gemau gweddill o Rownd 2 sydd wedi’u trefnu ar gyfer heno (Dydd Gwener), a dros y penwythnos, yn mynd ymlaen.
Bydd EPCR yn darparu diweddariad mor gynted ag sy’n bosib ac yn parhau i gysylltu’n uniongyrchol â’r holl glybiau, cynghreiriau a rhandaliad.