Mae rownd 8 o’r Guinness PRO14 yn erbyn Leinster wedi ei ohirio.
Roedd y gêm fod i’w chynnal ar Ddydd Sul, Tachwedd 29ain yn Llanelli, ond oherwydd i nifer bach o chwaraewyr y Scarlets dychwelyd prawf positif am COVID-19, a rhai wedi’u cofnodi fel cyswllt agos, mae rhaid iddynt hunan ynysu.
Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael, mae Grŵp Cynghori Meddygol y PRO14 wedi penderfynu ni all y gêm fynd yn ei flaen fel y trefnir.
Mae tîm rygbi Ulster hefyd wedi profi ei chwaraewyr gan iddynt chwarae yn erbyn y Scarlets Nos Sul, a disgwylir y canlyniadau o fewn y 24 awr nesaf.
Bydd Rygbi PRO14 yn archwilio dyddiadau posib yn gynnar yn 2021 i aildrefnu’r gêm.