Mae’r Scarlets wedi’i dynnu i Pool 3 yng Nghwpan Her 2023-24 EPCR gyda Chaeredin, Castres Olympique, ASM Clermont Auvergne, Caerloyw a ochr gwahoddedig fel gwrthwynebwyr.
Datgelwyd y gwrthwynebwyr yn Stadiwm Tottenham Hotspur – cartref y rownd derfynol tymor yma yn Llundain – ar Ddydd Mercher
Scarlets oedd y clwb olaf i’w gael ei dynnu, a’i grwpio gyda timau cyfarwydd URC megis Caeredin, y deuawd Ffrengig Castres a Clermont – a gollodd yn erbyn y Scarlets llynedd yn ystod rownd yr wyth olaf – a Chaerloyw, tîm nad ydyn wedi cwrdd ers 2001.
Mae’r amserlen ar gyfer y gemau am y ddau twrnamaint gyda’r dyddiadau, lleoliad, amseroedd a manylion darlledu i’w gyhoeddi mor gynted ag sy’n bosib. Bydd gemau yn cael eu penderfynu ar sail y canlyniad o dynnu timau heddiw, cyfyngiadau calendr y clybiau ac anghenion y darlledwyr.
Bydd y rowndiau pool yn cychwyn ym mis Rhagfyr. Bydd y pedwar uchaf ym mhob pool yn gymwys ar gyfer y rownd o 16.
penwythnosau 2023-24
Rownd 1 – 8/9/10 Rhagfyr 2023
Rownd 2 – 15/16/17 Rhagfyr 2023
Rownd 3 – 12/13/14 Ionawr 2024
Rownd 4 – 19/20/21 Ionawr 2024
Rownd of 16 – 5/6/7 Ebrill 2024
Rownd yr wyth olaf – 12/13/14 Ebrill 2024
Rownd gynderfynol – 3/4/5 Mai 2024
Rownd Derfynol Cwpan Her EPCR – Dydd Gwener 24 Mai 2024, Tottenham Hotspur Stadium
Rownd Derfynol Cwpan Pencampwyr – Dydd Sadwrn 25 Mai 2024, Tottenham Hotspur Stadium