Bydd Scarlets yn agor eu hymgyrch Cwpan Pencampwyr Ewropeaidd Heineken i ffwrdd i Gaerfaddon ddydd Sadwrn, Rhagfyr 12.
Mae trefnwyr y twrnamaint wedi cadarnhau gemau ac amseroedd cychwyn y pedair gêm lwyfan ym mis Rhagfyr a mis Ionawr.
Rydyn ni’n mynd i’r Rec ddydd Sadwrn, Rhagfyr 12 yn rownd un ar gyfer cic gyntaf 3.15yp cyn cynnal gelynion cyfarwydd Toulon y dydd Gwener canlynol (Rhagfyr 18) ym Mharc y Scarlets (5.30yh).
Mae taith i dde Ffrainc yn aros yn rownd tri cyn i Gaerfaddon fynd tua’r gorllewin i Lanelli yn rownd pedwar ddydd Sadwrn, Ionawr 23.
Mae darllediad teledu Cwpan Pencampwyr Heineken y tymor hwn yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon yn parhau i gael ei arwain gan BT Sport a fydd unwaith eto yn darlledu pob gêm yn fyw. Bydd y gystadleuaeth 24 clwb, sy’n cynnwys naw enillydd blaenorol gydag 19 teitl rhyngddynt, hefyd ar gael yn rhad ac am ddim gydag un gêm allweddol y rownd ar Channel 4 a Virgin Media.
Gemau
Dydd Sadwrn, Rhagfyr 12 – Caerfaddon v Scarlets CG 3.15yp BT Sport
Dydd Gwener, Rhagfyr 18 – Scarlets v RC Toulon CG 5.30yh BT Sport
Dydd Gwener, Ionawr 15 – RC Toulon v Scarlets CG 8yh BT Sport
Dydd Sadwrn, Ionawr 23 Scarlets v Caerfaddon CG 1yp Channel 4