Bydd y Scarlets yn chwarae yn erbyn Gleision Caerdydd wythnos nesaf mewn gêm PRO14 sydd wedi’i aildrefnu ym Mharc y Scarlets.
Bydd y gêm yn cael ei chynnal ar ddydd Gwener, 22ain o Ionawr am 8yh, a fydd yn cael ei ddarlledu’n fyw ar S4C a Premier Sports.
Roedd y gêm hon wedi’i drefnu ar gyfer mis Chwefror yn wreiddiol, ond mae’r ddau dîm wedi cytuno i’w aildrefnu ar gyfer wythnos nesaf yn dilyn gohiriad rownd terfynol o’r gemau pool Ewropeaidd.
Bu rowndiau 12 a 16 yn cael ei gyhoeddi maes o law.
Hoffir Rygbi PRO14 cydnabod holl ymdrech y darlledwyr a chlybiau wrth aildrefnu’r pum gem dros yr wythnosau i ddod a llwyddo i wneud hynny yn fyr rhybudd. Ni fyddai hyn yn bosib heb barodrwydd pawb sydd ynghlwm â’r digwyddiadau yma.
Chwaraeodd y Gleision a’r Scarlets yn rownd 11 yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn gynharach mis yma.