Mae’r Scarlets wedi arwyddo chwaraewr rhyngwladol yr Ariannin Tomas Lezana o’r Western Force ar gyfer tymor nesaf.
Mae’r dyn 27 oed yn gallu chwarae ar draws y rheng ôl ac mae ganddo 27 o gapiau Pumas i’w enw.
Cariwr deinameg gydag enw da am ei grefft, gwnaeth Lezana ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf yn erbyn Ffrainc ym Mharis yn 2014 a ddaeth oddi’r fainc yn ystod y fuddugoliaeth hanesyddol yn erbyn y Crysau Duon llynedd. Chwaraeodd i dîm Super Rugby Jaguares a’r tymor yma chwaraeodd i dîm Super Rugby AU Western Force.
Bydd Lezana, sy’n 6tr 1m ac yn pwyso 104kg, yn darparu mwy o opsiynau i reng ôl y Scarlets ac maent yn gyfforddus o fewn safleoedd blaenasgellwr ochr dywyll a’r ochr agored.
“Rydym wrth ein bodd i arwyddo Tomas ar gyfer y tymor nesaf,” dywedodd rheolwr cyffredinol rygbi Jon Daniels.
“Mae Tomas wedi chwarae ar y safon uchaf gyda’r Pumas ac wedi cael tipyn o brofiad o fewn Super Rugby.
“Mae’n chwaraewr a fydd yn rhoi’r bygythiad ychwanegol wrth gario ac maent yn enwog am ei ystadegau uchel o ran amddiffyn a gweithio.
“Gyda Josh Macleod yn gwella o anaf i’w achilles a James Davies yn gweithio ei ffordd yn ôl at ffitrwydd, teimlwn fod angen cryfhau ein hopsiynau i’r rheng-ôl o flaen y tymor nesaf ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu Tomas i Barc y Scarlets yn yr haf.”
Dywedodd Lezana: “Mae’n anrhydedd i mi ymuno â chlwb gyda chymaint o hanes a thraddodiad â’r Scarlets. Ar ôl chwarae i glybiau Super Rugby gyda’r Jaguares a’r Force rwy’n edrych ymlaen at brofi fy hun yn rygbi hemisffer y gogledd a chwarae ar lefel uchaf o’r gystadleuaeth Ewropeaidd.
“Mae gan y Scarlets nifer o chwaraewyr anhygoel yn eu carfan, chwaraewyr dwi wedi chwarae yn erbyn ar y llwyfan rhyngwladol a dw i’n edrych ymlaen at gwrdd lan gyda’r bois yn yr haf.
Dyma’r ail chwaraewr i’r Scarlets arwyddo yn dilyn cyhoeddiad y prop pen tynn WillGriff John o Sale Sharks. Mae’r Scarlets hefyd wedi cyhoeddi ail-arwyddo Wyn Jones, Blade Thomson, Ryan Elias, Aaron Shingler, Carwyn Tuipulotu, Morgan Jones a Javan Sebastian.