Mae’r Scarlets wedi arwyddo chwaraewr ail reng y Gweilch Lloyd Ashley ar gytundeb tymor byr.
Ymunodd y chwaraewr 30 oed â’r garfan wythnos yma o flaen ein gêm dydd Sul yn erbyn Munster yn ail rownd y Bencampwriaeth Rygbi Unedig ym Mharc y Scarlets.
“Mae sawl un o’n chwaraewyr ail reng wedi’u hanafu yn ystod wythnosau agoriadol y tymor felly rydym wedi dod â Lloyd i mewn ar gyfer y bloc yma o gemau,” dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel.
“Mae ganddo lawer o brofiad, yn berfformiwr da ar y lefel yma ac wedi cymysgu’n dda gyda’r grŵp.”