Efan Jones, un o fewnwyr blaenllaw y Gynghrair Indigo, ydy’r chwaraewr diweddaraf i ymuno â charfan y Scarlets o flaen tymor 2023-24.
Mae’r chwaraewr 25 oed, sydd wedi serennu i RGC dros y tymhorau diwethaf, wedi bod yn rhan o grŵp sydd wedi ymarfer ym Mharc y Scarlets wythnos yma.
Mae Jones yn ymuno â grŵp o fewnwyr cyffrous sydd yn cynnwys y chwaraewyr rhyngwladol Gareth Davies a Kieran Hardy, yn ogystal â Archie Hughes, sydd ar hyn o bryd yn Ne Affrica fel rhan o garfan D20 Cymru.
Mwynhaodd Jones ymgyrch arbennig gyda RGC tymor diwethaf, gan sgori 11 o geisiau a chasglu gwobrau chwaraewr yr hyfforddwyr a’r chwaraewyr o’r tymor.
Yn gyn-chwaraewr D18 i Gymru, mae ganddo’r profiad o ymarfer gyda’r garfan hŷn ym Mharc y Scarlets a sgori hat-tric o geisiau i dîm Scarlets Ac yn y Cwpan Celtaidd yn erbyn Ulster yn Llanymddyfri pedair blynedd yn ôl.
Dywedodd Prif Hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Mae Efan yn chwaraewr cyffrous sydd newydd gwblhau tymor anhygoel gyda RGC yn y Gynghrair ac yn haeddu’r cyfle ar y lefel hwn. Bydd Efan yn ychwanegu at grŵp o fewnwyr talentog yn y clwb.”
Yn siarad yn ystod ei wythnos gyntaf o ymarferion, dywedodd Efan Jones: “Mae hyn yn gyfle gwych ac mae’r croeso dwi wedi derbyn gan y chwaraewyr, hyfforddwyr a staff wythnos yma wedi bod yn ardderchog.
“Mae chwarae rygbi proffesiynol wedi bod yn darged i mi ac mae’r cyfle i ddatblygu fy ngêm, dysgu wrth fewnwr Cymru a’r Llewod Dwayne Peel, ynghyd yr hyfforddwyr eraill yma, yn anferthol.
“Roedd chwarae ym Mharc y Scarlets i RGC yn uchafbwynt. I mi, dwi am weithio’n galed yn yr ymarferion dros yr haf a gwthio am gyfleoedd o flaen y cefnogwyr yma mewn crys Scarlets. Hoffwn ddiolch i’r hyfforddwyr, chwaraewyr a chefnogwyr RGC a dymuno pob lwc iddyn nhw am y tymor newydd.”
Jones ydy’r chwaraewr newydd diweddaraf i arwyddo cytundeb am dymor 2023-24, yn dilyn Ioan Lloyd, Tomi Lewis, Alex Craig, Teddy Leatherbarrow a Charlie Titcombe.
EFAN JONES
Oed: 25
Safle: Mewnwr
Taldra: 177cm
Pwysau: 85kg
Anrhydeddau rhyngwladol: Cymru D18
Clybiau blaenorol: Rhos RFC, Wrexham RFC, RGC