Roedd hi’n gêm agos iawn i’r Scarlets nos Sul, wrth iddyn nhw bron dorri record glan Ulster wrth golli 26-24 yn frwydr PRO14 yn Stadiwm Kingspan.
Gadawyd Belfast gyda dau bwynt bonws haeddiannol iawn, ac yn teimlo efallai dylent wedi gadael yn fuddugol hefyd.
Ar ôl ildio cais cynnar, fe ddaeth y Scarlets yn ôl mewn i’r gêm i ddangos brwydr gref yn erbyn Ulster.
Ond wrth i’r frwydr agosâi, roedd hi’n ormod o ofyn i’r dim i wthio ‘mlaen yn y munudau olaf.
Roedd newidiadau hwyr i’r tîm o ran Jac Price yn dod mewn i Sam Lousi yn yr ail-reng, ac ar ôl Lousi methu prawf ffitrwydd cyn y gêm, daeth Dan Davis ymlaen i’r fainc yn ei le.
Gydag 1,000 o gefnogwyr Ulster yn bloeddio o’r ochrau, dechreuodd Ulster gyda chais trawiadol gan yr asgellwr Rob Lyttle ar ôl wyth munud.
Ymatebwyd y Scarlets yn gryf er i Dan Jones methu dwy gic cosb, sgoriwyd Paul Asquith cais ar ôl 17 munud, a throswyd gan Angus O’Brien.
Daeth cais Asquith ar ôl cerdyn melyn i Kieran Treadwell o ail-reng Ulster am dacl uchel ar Javan Sebastian, penderfyniad sydd wedi’i barnu i fod yn hael. Oherwydd y dacl, roedd angen Sebastian ddod oddi wrth y cae gyda Werner Kruger yn cymryd ei le yn safle prop pen-tynn.
Gyda’r rhengoedd ôl Sione Kalamafoni a Jac Morgan i’r amlwg, parhawyd y Scarlets i roi pwysau ar y tîm cartref, ond ar ôl 32 munud, ddaeth Ulster nol gyda chais gan ganolwr Stewart Moore a’i drosi gan John Cooney.
Ac erbyn hanner amser fe darwyd Ulster eto gyda seren y gêm Sean Reidy yn croesi o agos.
Fe ddechreuodd yr ail hanner yn well i’r gwesteion, gyda Ryan Conbeer yn croesi am ei bedwerydd cais mewn tair gem.
Ar ôl 54 munud, yn dilyn yr ail gerdyn melyn i Ulster am dacl uchel, fe groeswyd y Scarlets am ei drydydd cais a sgoriwyd gan yr eilydd Tyler Morgan, a chyrhaeddiad mawr i Steff Evans wrth iddo sgori ei 50fed cais i’r Scarlets.
Gyda pymtheg munud ar ol ar y cloc, daeth Ulster nol i gywiro ei camgymeriadau ar hyd y ffordd gyda’i pedwerydd cais o’r game.
Gyda’r amser yn mynd heibio’n gyflym, a tair munud ar ol, fe bwerwyd Phil Price dros y llinell gais am ei gais cynta i’r clwb mewn 53 o ymddangosiadau. Llwyddod O’Brien i drosi’r cais, i ddod a’r sgor o fewn dau bwynt.
Gyda amser yn eu herbyn, methodd y bois i ennill mwy o bwyntiau a fe adawyd Stadiwm Kingspan gyda’r pwynt bonws ar golled.
Ulster – ceisiau: R. Lyttle, S. Moore, S. Reidy, K. Treadwell. Cons: J. Cooney (3)
Scarlets – ceisiau: P. Asquith, R. Conbeer, S. Evans, P. Price. Cons: A. O’Brien (2)