Mae’r Scarlets yn croesawu pecyn cyllid sydd wedi’i chyhoeddi gan Lywodraeth Cymru i helpu chwaraeon sydd wedi’u heffeithio gan Covid-19.
Mae’r pecyn sydd werth £17.7m, ac o hyn fydd rygbi Cymru yn derbyn £13.5m, wedi’i ddylunio er mwyn galluogi cymorth ariannol i chwaraeon yn ystod y gaeaf, a fydd yn paratoi ar gyfer y tymor newydd ym mis Medi.
Bydd cefnogaeth ar gael i chwaraeon eraill megis pêl-droed, criced a hoci ia. Mae rygbi’r gynghrair, pêl rhwyd a rasio ceffylau hefyd yn derbyn cymorth. Bydd y cyllid yma yn galluogi i glybiau a sefydliadau chwaraeon sydd wedi’u heffeithio gan y cyfyngiadau i oroesi am y byrdymor.
Mae’r pecyn cyllid yn cael ei ddosbarthu i gyrff llywodraethu cenedlaethol chwaraeon yn uniongyrchol o Lywodraeth Cymru, gyda’r £13.5m wedi’i rhannu’n hafal rhwng URC, Scarlets, Y Gweilch, Gleision Caerdydd a’r Dreigiau.
Dywedodd Cadeirydd Gweithredol y Scarlets Simon Muderack: “Mae absenoldeb ein cefnogwyr o Barc y Scarlets yn cyflwyno sialensiau ariannol i’r clwb ac rydym yn werthfawrogol iawn o becyn cyllid Llywodraeth Cymru a fydd yn ein helpu ni gyd yn y Scarlets ac yn rygbi Cymru i weithio trwy’r cyfnod anodd yma.
“Ni fyddwn yn croesawu ein cefnogwyr yn ôl am dipyn o amser felly rydym i gyd yn cydnabod bod llawer o waith i’w wneud yng Nghymru er mwyn galluogi ailgychwyn rygbi tymor nesaf.”
Dywedodd PSG Undeb Rygbi Cymru Steve Phillips: “Ar ran rygbi proffesiynol yng Nghymru hoffwn ddiolch Llywodraeth Cymru am y wobr yma o’r Gronfa Diogelu Chwaraeon Gwylwyr.
“Yn ystod cyfnod anodd iawn mae Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru wedi bod yn weithredol ac yn cydymdeimlo i’r sialens yng Nghymru.
“Rhagwelir y sialensiau yma ar gyfer y Cwpan Cenhedloedd yr Hydref. Er hyn, gyda natur y pandemig ar hyn o bryd, does neb yn gallu dyfalu pryd cawn groesawu cefnogwyr yn ôl i’r stadiwm i allu ailgychwyn llif incwm i normal. Felly, mae’r grant o £13.5m yn ddefnyddiol iawn.
“Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AS, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Wrth i gyfyngiadau ar gefnogwyr i fynychu digwyddiadau helpu’r achos i atal lledaenu’r feirws ac achub bywydau, does dim amheuaeth bod hynny wedi cael effaith mawr ar glybiau chwaraeon, lle mae llawer ohonynt yn dibynnu ar yr incwm hynny.
“Mae chwaraeon yn sector pwysig iawn i’r economi ac mae ganddo effaith bositif iawn ar ein hiechyd corfforol a meddyliol. Mae’r digwyddiadau chwaraeon yn galluogi profiadau pwysig i bobl gallant rannu gydag eraill, ac mae croesawu chwaraeon yn ôl i’n teledu wedi chwarae rhan bwysig yn ein hadferiad ac ein hiechyd yn dilyn yr argyfwng.
“Bydd yr arian yma yn galluogi sefydlogrwydd i’r clybiau a chwaraeon sydd wedi’u heffeithio’r mwyaf oherwydd y pandemig, a fydd yn helpu i gau’r bwlch ariannol wrth aros i dderbyn y golau gwyrdd i gefnogwyr dychwelyd yn ddiogel i gemau.”