● Pennaeth newydd o’r Llwybr Datblygu i’w gael ei apwyntio
● Bydd Rheolwr Cyffredinol Rygbi Jon Daniels yn arwain gweithrediadau fel Rheolwr Gyfarwyddwr y Scarlets
● Mae’r Scarlets am recriwtio Cyfarwyddwr Perfformiad Rygbi newydd i gydweithio gyda’r Prif Hyfforddwr Dwayne Peel
● Bydd y Prif Swyddog Gweithredu Phillip Morgan yn arwain Cyfrifon fel Prif Swyddog Ariannol
Cyhoeddir y Scarlets pedwar rôl uwch dîm newydd ym Mharc y Scarlets fel rhan o fuddsoddiad a ffocws arwyddocaol a fydd yn gyrru llwyddiant a chynaliadwyedd yn nyfodol y clwb.
Bydd yr apwyntiadau newydd yn dod ag arbenigedd, gweledigaeth ac arweiniad ychwanegol i ffocysu ar agweddau allweddol yn y busnes er mwyn cryfhau ac alinio gweithrediadau rygbi, masnach a chymuned y Scarlets – trwy atgyfnerthu diwylliant perfformiad cryf.
Bydd Cyfarwyddwr Perfformiad Rygbi newydd yn cael ei benodi i weithio ochr yn ochr â’r Prif Hyfforddwr Dwayne Peel a’i dîm hyfforddi tymor nesaf, gan atgyfnerthu’r tîm rheoli rygbi. Bydd y Cyfarwyddwr Perfformiad Rygbi newydd yn cefnogi’r Prif Hyfforddwr i ddarparu buddugoliaethau trwy rannu gweledigaeth newydd, sy’n ffocysu ar ddarparu’r safonau, systemau a phrosesau proffesiynol uchaf sy’n cefnogi amgylchedd y Scarlets.
Bydd y Scarlets hefyd yn penodi Pennaeth i’r Llwybr Datblygu i ffocysu ac i arwain ar y gwaith o ehangu ei raglen datblygu rygbi llwyddiannus gan gynnwys yr Academi, Cystadleuaeth Elite Domestig (EDC) a’r pum canolfan (EPP) gyda ffocws cynyddol ar rygbi merched a menywod.
Oddi ar y cae, mae Jon Daniels wedi’i apwyntio fel Rheolwr Cyfarwyddwr i arwain ar weithrediadau’r Scarlets. Mae gan Jon dyfnder unigryw o brofiad a gwybodaeth ar draws gweithrediadau rygbi elitaidd a chymunedol, a phrofiad o reoli oddi ar y cae o dros 20 mlynedd gyda’r Scarlets. Mae hefyd wrth galon datblygiad dyfodol rygbi Cymru fel cadeirydd y Bwrdd Rheoli Rygbi ac mae’n aelod o’r PRB (Bwrdd Rygbi Proffesiynol).
Bydd y Prif Swyddog Gweithredu Phillip Morgan yn cyfarwyddo rheolaeth ariannol fel Prif Swyddog Ariannol ac Ysgrifennydd Cwmni ar Fwrdd Cyfarwyddwyr y Scarlets. Yn Gyfrifydd Rheolaeth Siartredig gyda mwy nag 20 mlynedd o brofiad ar lefel cyfarwyddwr ym maes cyllid, ac 11 mlynedd o wasanaeth gyda’r Scarlets, bydd Phillip Morgan yn canolbwyntio ar ddarparu strategaeth ariannol gadarn a llywodraethu ar lefel bwrdd.
Dywedodd Cadeirydd Gweithredol y Scarlets Simon Muderack: “Bydd yr apwyntiadau yma yn ein helpu i wynebu heriau rydym am wynebu nawr ac yn y dyfodol, ar y cae ac oddi ar y cae.
“Mae llawer o waith i’w wneud sydd yn hanfodol i ddatblygiad, cynaliadwyedd a llwyddiant hirdymor. Bydd yr apwyntiadau yma yn dod ag arweinyddiaeth a gwybodaeth a fydd yn cryfhau ein ffocws a pherfformiad sy’n alinio ein busnes rygbi a chryfhau’r tîm gweithgar ac ymroddedig sydd gyda ni yma ym Mharc y Scarlets.”