Scarlets yn cyhoeddi noddwr cit newydd

Kieran LewisNewyddion

Mae’r Scarlets, mewn cydweithrediad â Macron, wedi lansio cit cartref newydd tymor 2018-19.

Cafodd noddwyr cit y rhanbarth gyfle unigryw i weld y cit ym Mharc y Scarlets cyn iddo gael ei rhyddhau i’r cyhoedd ar y we.

Cyhoeddwyr mae’r brif noddwr newydd yw Juno Moneta Group mewn partneriaeth a fydd yn gweld logo’r cwmni yn ymddangos ar y cit cartref ac oddi cartref am y tri tymor nesaf.

Sefydlwyd y Juno Moneta Group yn 2014 gan y Cadeirydd Louise O’Halloran. Yn gwmni Cymreig gyda swyddfeydd yn Ne a Gorllewin Cymru yn ogystal ag yn Lloegr. Maent yn delio mewn gwasanaethau ariannol, cyfreithiol a gwerthiant tai.

Mae Juno Moneta, fel y Scarlets, eisiau datblygu perthnasau gyda’r gymunedau ehangach. Fe fydd y cwmni yn rhoi bwrdd o ddeg ym mhob gêm gartref i elusennau, sefydliadau cymunedol ac ysgolion.

Dywedodd Louise O’Halloran; “Mae’n cleientiaid ni yng nghalon pob peth ry’n ni’n ei wneud. O’r cyfarfod cyntaf gyda’r Scarlets roedd yn amlwg gweld bod ein cynlluniau ni yn cyd-rhedeg.

“Mae’r bartneriaeth newydd yma, fel prif noddwr cit y Scarlets, yn un ry’n ni’n hynod o falch ohono. Maent yn rhanbarth sydd a’r gymuned yng nghanol popeth; mae bod yn aelod o deulu’r Scarlets yn rhywbeth i ni ymfalchio ynddo.

“Fe fyddwn ni’n gweithio’n agos gyda’r Scarlets dros y blynyddoedd nesaf i wneud yn siwr ein bod ni’n cyfrannu i’r gymuned hefyd. Mae’r Scarlets yn ysbrydoliaeth i gynifer o bobl ac ry’n ni’n edrych ymlaen at fod yn rhan o’r teulu.”

Mae’r cit cartref, yn lliwiau nodweddiadol y Scarlets, yn dangos draig y Scarlets ar y frest tra’n cyfuno coler gwyn traddodiadol.

Dywedodd Nathan Brew, Pennaeth Masnachol y Scarlets; “Mae digwyddiad heddiw ym Mharc y Scarlets wedi bod yn gyfle i ni ddadorchuddio’r crys ond hefyd i groesawu noddwyr newydd i’r teulu.

“Ry’n ni’n falch iawn croesawu Juno Moneta i’r Scarlets ac ry’n ni’n edrych ymlaen i weld y bartneriaeth yn mynd o nerth i nerth.

“Yn ogystal a Juno Moneta ry’n ni’n croesawu Owens Group, Ronnie S. Evans a Pencnwc Holiday Park fel noddwyr newydd yn ogystal â’n noddwyr presennol.

“Hoffwn estyn diolch, ar ran y Scarlets, i bob un noddwr sy’n ein cefnogi. Mae’r gefnoaeth gan gwmniau lleol a chenedlaethol yn holl bwysig i ni ac ry’n ni’n edrych ymlaen at dymor llwyddiannus arall ar ac oddi ar y cae.”