Mae prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel wedi dangos tri newid i’w dîm i ddechrau yn erbyn Ulster yn yr ail rownd o’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig BKT ym Mharc y Scarlets ar Ddydd Sadwrnh (1yp).
Y cefnwr Ioan Nicholas, yr asgellwr Corey Baldwin a’r blaenasgellwr Josh Macleod sydd yn dod i mewn i’r ochr wrth i’r tîm edrych i adeiladu ar eu perfformiad yn yr ail hanner yn erbyn y Gweilch.
Nicholas sydd yn dod i mewn fel cefnwr yn lle Johnny McNicholl, sydd yn dilyn protocol asesiad pen ar ôl derbyn ergyd yn ystod yr hanner cyntaf Dydd Sadwrn diwethaf; Baldwin sydd yn cymryd lle Tom Rogers, sydd wedi anafu’i llinyn y gar yn ystod ymarferion yn yr wythnos, wrth i Macleod wisgo cryf rhif 7 gyda Tomás Lezana yn eistedd mas gydag anaf i’w goes.
Nicholas, Baldwin a Ryan Conbeer sydd yn cwblhau’r tri ôl a datblygwyd o fewn y rhanbarth.
Y canolwr i’r Llewod Jonathan Davies sydd yn gapten ar yr ochr ac yn parhau ei bartneriaeth gyda Johnny Williams yng nghanol cae, wrth i Gareth Davies a Sam Costelow parhau fel haneri am yr ail wythnos yn olynol.
Yn y rheng flaen mae Steff Thomas, Ryan Elias a Javan Sebastian gyda Vaea Fifita a Sam Lousi yn parhau yn yr ail reng. Yn y rheng ôl mae Macleod yn ymuno â Blade Thomson a Sione Kalamafoni.
There are three changes among the replacements with 20-year-old loose-head prop Sam O’Connor and 18-year-old back-rower Luca Giannini poised to make their URC debuts. Sam takes his place alongside older brother Harri.
Bydd Rhys Patchell yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf o’r ymgyrch os yn dod oddi’r fainc.
Dywedodd prif hyfforddwr Dwayne Peel: “Mae’n gêm gartref arall sydd yn grêt i ni i adeiladu ar y momentwm. Chwaraeodd Ulster yn dda iawn ac yn glinigol iawn yn erbyn Connacht penwythnos diwethaf. Maent yn dîm penigamp fel dangosir tymor diwethaf. Mi fydd hi’n her mawr i ni, ond rydym yn edrych ymlaen.”
Scarlets v Ulster (Parc y Scarlets; Dydd Sadwrn, Medi 24, 1yp, Premier Sports)
15 Ioan Nicholas; 14 Corey Baldwin,13 Jonathan Davies (capt), 12 Johnny Williams, 11 Ryan Conbeer; 10 Sam Costelow, 9 Gareth Davies; 1 Steff Thomas, 2 Ryan Elias, 3 Javan Sebastian, 4 Vaea Fifita, 5 Sam Lousi, 6 Blade Thomson, 7 Josh Macleod, 8 Sione Kalamafoni.
Reps: 16 Daf Hughes, 17 Sam O’Connor, 18 Harri O’Connor, 19 Tom Price, 20 Luca Giannini, 21 Kieran Hardy, 22 Dan Jones, 23 Rhys Patchell.
Ddim ar gael
Johnny McNicholl, Tomás Lezana, Tom Rogers, Leigh Halfpenny, Aaron Shingler, Scott Williams, Steff Evans, Dan Davis, Phil Price, Lewis Rawlins, Joe Roberts, Carwyn Tuipulotu, Callum Williams, Kemsley Mathias, WillGriff John, Samson Lee, Griff Evans, Josh Helps.