Scarlets yn dechrau Cwpan Her gartref i Wyddelod Llundain

Kieran LewisNewyddion

Bydd gan y Scarlets fantais gartref i lansio eu hymgyrch Cwpan Her Ewropeaidd pan fyddan nhw’n herio Gwyddelod Llundain ym Mharc y Scarlets ddydd Sadwrn, Tachwedd 16 (8yh, y gic gyntaf).

Bydd yr ‘exiles’ yn gwneud eu taith rownd un i Lanelli, naw mlynedd ar ôl eu hymweliad diwethaf yng Nghwpan Heineken – gêm a enillodd 31-22 gan ochr Cymru.

Bydd y gêm hefyd yn gweld hyfforddwyr newydd y Scarlets Glenn Delaney a Richard Whiffin yn mynd i fyny yn erbyn eu cyn glwb.

Heddiw, rhyddhaodd trefnwyr y twrnamaint EPCR y rhestr gemau lawn ar gyfer y chwe rownd o weithredu yn y pwll gydag ochr Brad Mooar yn mynd i dde Ffrainc i herio gelynion cyfarwydd Toulon yn rownd dau.

Bydd y gêm yn erbyn brenhinoedd Ewrop yn cychwyn am 9yh amser lleol (8yh amser y DU) ddydd Gwener, Tachwedd 22 yn y Stade Mayol.

Er y bydd y Scarlets yn gwybod popeth am gewri Ffrainc o wrthdaro diweddar yng Nghwpan y Pencampwyr, mae newydd-ddyfodiaid Top14 Bayonne yn cyflwyno her newydd ym mhennyn dwbl mis Rhagfyr gyda’r ochrau erioed wedi cwrdd mewn cystadleuaeth Ewropeaidd.

Mae’r Scarlets yn mynd ar draws y sianel unwaith eto yn rownd tri am gêm yn y Stade Jean Dauger, a fydd yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn, Rhagfyr 7 – eto gyda chic gyntaf amser lleol o 9yh. Bydd y dychweliad yn digwydd wythnos yn ddiweddarach ym Mharc y Scarlets ddydd Sadwrn, Rhagfyr 14 (8yh ko).

Toulon yw’r ymwelwyr yn rownd pump, gan ddwyn atgofion o’u diweddglo pwll gafaelgar ym Mharc y Scarlets llawn dop yn 2017-18. Bydd y gêm honno’n cael ei chynnal ddydd Sadwrn, Ionawr 11, am 8yh.

Yn y rownd olaf bydd taith i lawr yr M4 i Stadiwm Madejski ddydd Sadwrn, Ionawr 18 (3yh).

Ni fydd cefnogwyr y Scarlets yn ddieithriaid i leoliad Reading, a gynhaliodd rownd gynderfynol wefreiddiol Ewrop yn erbyn Northampton Saints yn 2000.

Efallai bod y Scarlets wedi ymylu allan yn y gêm honno, ond wedi curo’r Gwyddelod yn eu dau ymweliad blaenorol yn Madejski yng nghystadleuaeth Ewropeaidd.

Picture: Scarlets centre Jonathan Davies crosses for a try in his side’s 31-22 win at Parc y Scarlets in 2010

Scarlets Challenge Cup fixtures 2019-20

Dydd Sadwrn, Tachwedd 16 – Scarlets v Gwyddelod Llundain (Parc y Scarlets; 8yh).

Dydd Gwener, Tachwedd 22 – RC Toulon v Scarlets (Stade Mayol; 9yh amser lleol)

Dydd Sadwrn, Rhagfyr 7 – Bayonne v Scarlets (Stade Jean Dauger; 9yh amser lleol)

Dydd Sadwrn, Rhagfyr 14 – Scarlets v Bayonne (Parc y Scarlets; 8yh)

Dydd Sadwrn, Ionawr 11 – Scarlets v RC Toulon (Parc y Scarlets; 8yh)

Ionawr 17/18 – Gwyddelod Llundain v Scarlets (Stadiwm Madejski; TBC)