Scarlets yn dychwelyd i’r PRO14 yn y Parc

Kieran LewisNewyddion

Fe fydd y Scarlets yn dychwelyd i gyffro’r Guinness PRO14 penwythnos yma wrth iddynt groesawu Glasgow i Barc y Scarlets.

Fe fydd y rhanbarth yn croesawu’r Albanwyr, sydd ar frig Adran A, i’r Par car ddydd Sadwrn 7fed Ebrill, cic gyntaf 16:15, yn dilyn llwyddiant yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop penwythnos diwethaf.

Mae’r Scarlets yn ail yn Adran B ar hyn o bryd, tri phwynt yn unig tu ôl i’ Leinster sydd ar y brig, tra bod Glasgow yn geffyl blaen yn Adran A.

Fe fydd tîm Wayne Pivac yn gobeithio parhau â’r momentwm buddugol o benwythnos diwethaf a dychwelyd y trên i’r cledrau yn y Guinness PRO14 ar ôl colli’n erbyn Munster yn y rownd olaf yn Thomond Park.

Tri gêm arferol yn unig sy’n weddill yn y bencampwriaeth ac fe fydd y Scarlets yn awyddus iawn i barhau wrth y brig er mwyn sicrhau lle yn y gemau ail gyfle.

Wrth edrych ymlaen i’r gêm dywedodd y prif hyfforddwr Wayne Pivac; “Ry’n ni wedi dweud o’r diwrnod cyntaf ein bod ni eisiau cadw, ac ennill y bencampwriaeth am yr ail dro ond hefyd eisiau bod yn gystadleuol yn Ewrop. Y nod cyntaf yw cyrraedd y rowndiau ail gyfle. Ry’n ni wedi llwyddo gwneud hynny yn Ewrop ond dy’n ni ddim wedi llwyddo gwneud hynny yn y PRO14 eto.

“Mae Dave Rennie yn hyfforddwr da iawn. Mae wedi do di mewn i dîm sydd â hanes da iawn yn y gystadleuaeth, ament yn chwarae steil cyffrous o rygbi a dyw hynny ddim wedi newid.

“Maent yn gwneud yn ysgubol o dda yn y gystadleuaeth ac mae nhw yn yr un sefyllfa ag yr oedden ni llynedd yn gallu cylchdroi’r garfan nawr eu bod allan o Ewrop; mae’n rhaid i ni fod yn wyliadwrus o hynny.

“Mae gyda ni cwpwl o chwaraewyr sy’n gadael ar ddiwedd y flwyddyn ac ry’n ni eisiau mynd allan i’r cae a chwarae’n dda iddyn nhw ond hefyd i’r cefnogwyr a diolch iddynt am eu cefnogaeth wythnos diwethaf.”

Tîm y Scarlets i wynebu Glasgow ym Mharc y Scarlets, Sadwrn 7fed Ebrill, cic gyntaf 16:15;

15 Leigh Halfpenny, 14 Ioan Nicholas, 13 Scott Williams, 12 Hadleigh Parkes, 11 Steff Evans, 10 Rhys Patchell, 9 Gareth Davies, 1 Rob Evans, 2 Ken Owens ©, 3 Samson Lee, 4 Tadhg Beirne, 5 Steve Cummins, 6 Aaron Shingler, 7 James Davies, 8 John Barclay

Eilyddion; Ryan Elias, Dylan Evans, Werner Kruger, Lewis Rawlins, Will Boyde, Aled Davies, Dan Jones, Steff Hughes