Mae’r Scarlets wedi enwi’r tîm a fydd yn herio Zebre Parma yn rownd chwech o’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig BKT ym Mharc y Scarlets ar nos Wener (19:35).
Y prif hyfforddwr Dwayne Peel sydd wedi penderfynu ar bum newid, un ohonynt yn newid safle, i’r tîm a ddechreuodd yn y gêm fuddugol yn erbyn y Teirw wythnos ddiwethaf.
Tu ôl i’r sgrym, mae Sam Costelow yn cychwyn yng nghrys rhif 10 gydag Ioan Lloyd yn newid i safle’r cefnwr. Costelow fydd yn bartner i Gareth Davies, a fydd yn gwneud ei chweched ymddangosiad yn olynol yng nghrys rhif naw.
Mae yna newid yng nghanol cae wrth i’r canolwr 19 oed Macs Page cael ei enwi i gydweithio gyda’r chwaraewr 21 oed Eddie James.
Blair Murray a Tom Rogers, y ddau a wnaeth groesi am geisiau unigol arbennig yn erbyn y Teirw, sydd yn parhau ar yr asgell.
Dau newid sydd i weld yn y pac.
Y prop pen rhydd Alec Hepburn sydd yn cyfnewid gyda Kemsley Mathias wrth iddo gael ei enwi yn y rheng flaen wrth ochr y chwaraewyr rhyngwladol Ryan Elias a Henry Thomas.
Jac Price, a ddaeth oddi’r fainc penwythnos diwethaf, sydd yn dechrau wrth ochr Sam Lousi yn yr ail reng. Yn y rheng ôl mae Max Douglas, y capten Josh Macleod a Taine Plumtree yn parhau i gydweithio.
Jarrod Taylor sydd yn dod i mewn i’r garfan o 23 ac wedi’i enwi ar y fainc.
Dywedodd y prif hyfforddwr Dwayne Peel: “Yn amlwg i ni wrth ein bodd i guro’r Teirw, ond mae’r ffocws wedi newid yn gyflym i Zebre, ochr sydd yn gryf iawn os yn derbyn y cyfle. Mae ganddyn nhw redwyr da ac yn hoffi lledu’r bel. Mae’r gêm yma’n bwysig i ni a gobeithio fe allwn adeiladu ar y momentwm a’r hyder i ni wedi magu dros y ddwy fuddugoliaeth ddiwethaf.”
Tîm y Scarlets i chwarae Zebre Parma ym Mharc y Scarlets ar Ddydd Gwener, Hydref 25 (7.35pm BBC Wales)
15 Ioan Lloyd; 14 Tom Rogers, 13 Macs Page, 12 Eddie James, 11 Blair Murray; 10 Sam Costelow, 9 Gareth Davies; 1 Alec Hepburn, 2 Ryan Elias, 3 Henry Thomas, 4 Jac Price, 5 Sam Lousi, 6 Max Douglas, 7 Josh Macleod (capt), 8 Taine Plumtree.
Eilyddion: 16 Marnus van der Merwe. 17 Kemsley Mathias, 18 Sam Wainwright, 19 Alex Craig, 20 Jarrod Taylor, 21 Efan Jones, 22 Ioan Nicholas, 23 Johnny Williams.
Ddim ar gael oherwydd anaf
Tomi Lewis, Joe Roberts, Steff Evans, Harri O’Connor, Shaun Evans, Archie Hughes, Vaea Fifita, Isaac Young, Josh Morse, Carwyn Tuipulotu.