Gyda gwasanaethau yn cymryd le dros y wlad y penwythnos yma fel rhan o Sul y Cofio, mae’r Scarlets yn talu teyrnged i’n lluoedd arfog yn ystod gêm Guinness PRO14 ar Ddydd Sadwrn yn erbyn Benetton.
Byddwn yn cofio’r aberthau o’r rhai a wnaeth brwydro mewn gwrthdrawiad a hefyd codi arian ar gyfer elusennau arbennig.
Bydd Help for Heroes yn bresennol gyda model arsefydliad arbennig fel rhan o’i ymgyrch #40ThousandStrong sydd yn anelu i uwcholeuo’r wir raddfa o’r rhai sydd a’u bywydau ar y llinell ac yn codi arian i ddarparu cefnogaeth i gyn-filwyr a gafodd eu hanafu. Bydd y Lleng Brenhinol Prydeinig hefyd yn bresennol.
Yn bresennol hefyd bydd arddangosfa cerbydau milwrol, gan gynnwys tanc Challenger 2 a fydd tu allan yr Ardal Juno Moneta. Tu fewn yr Ardal bydd yna gwrs ymosod, ond yn dibynnu ar y tywydd bydd wal dringo ar gael ar gyfer y cefnogwyr iau’r Scarlets.
Cyn y gic gyntaf, mi fydd cynrychiolydd y Scarlets yn llofnodi’r cyfamod lluoedd arfog yn y Lolfa’r Quinnell, lle bydd hefyd siaradwyr gwadd yn cynrychioli’r elusen Help for Heroes. Bydd gyn-filwyr yn ymuno ein gorymdaith cyn y gêm a bydd munud o dawelwch yn dilyn y post olaf i gofio’r rhai a gollodd ei bywydau.
Ar Ddydd Sul y cofio yng ngwasanaeth blynyddol yng Nghofadail Llanelli, bydd ein prif hyfforddwr Brad Mooar yn gosod plethdorch ar ran y Scarlets. Bydd cyn-chwaraewyr a chyn-gynrychiolwyr y clwb yn cymryd rhan y gwasanaeth hefyd.
Dywedodd rheolwr cyffredinol lleoliad y Scarlets Carrie Gillam: “Rydym wrth ein boddau i groesawu’r lluoedd arfog i’r stadiwm. Mae’n hynod o bwysig ein bod yn cofio’r rhai o’n nghymunedau lleol sydd wedi gwneud yr aberth eithaf ar ein cyfer ac i gefnogi’r rhai sydd yn brwydro ar hyn o bryd, y rhai a fydd yn y dyfodol a’r rhai sydd wedi ymddeol.
“Yn ogystal â gêm hynod o gyffrous o rygbi, mae gennym ni gweithgareddau ardderchog ar gyfer y teulu, ac i orffen, y tanc Challenger sydd wedi dod mewn, yn arbennig ar gyfer ni”.
I ddarganfod mwy neu i gyfrannu at yr ymgyrch 40ThousandStrong, ewch i: https://www.helpforheroes.org.uk/40thousandstrong/