Mae Scarlets wedi ymuno â Choleg Llanymddyfri mewn partneriaeth newydd gyda’r nôd o ddatblygu talent rygbi elitaidd.
Mae gan y Coleg enw da am gynhyrchu chwaraewyr rygbi Cymru ar y lefel uchaf gyda phobl megis cyn gapten Cymru, Gwyn Jones, a sêr presennol Cymru a Llewod Prydain ac Iwerddon George North ac Alun Wyn Jones ymhlith ei cyn-fyfyrwyr. Mae Dafydd Hughes, Tomi Lewis a Corey Baldwin, sydd wedi cynrychioli Cymru dan 20 a Scarlets Cymru, hefyd yn gyn-ddisgyblion.
Bydd y rhaglen sydd newydd ei datblygu yn adeiladu ar y rhaglen rygbi bresennol yng Ngholeg Llanymddyfri a bydd Ioan Cunningham, cyn-hyfforddwr blaenwyr y Scarlets, yn arwain rôl Cyfarwyddwr Rygbi Elitaidd Coleg Llanymddyfri am gyfnod dros dro.
Dywedodd rheolwr llwybr datblygu Scarlets, Kevin George: “Rydyn ni wedi gweithio’n agos gyda Choleg Llanymddyfri yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond mae’r bartneriaeth newydd hon yn mynd â hi i lefel newydd, gan danategu rhaglen Alltudion Cymru i ddarparu gwerth ychwanegol ar gyfer llwybr datblygu’r Scarlets.
“Mae’n gam cyffrous ymlaen i bob un ohonom.
“Mae’n wych cael hyfforddwr o safon Ioan a phrofiad yn arwain y rhaglen. Mae’n rhywun sy’n adnabod ein rhaglen ddatblygu yn dda ar ôl bod yn rhan o’r Academi ac, wrth gwrs, yr uwch dîm hyfforddi yn y Scarlets. ”
Bydd Cunningham yn cymryd cyfrifoldeb penodol am gynghori staff rygbi’r Coleg ar weithredu rhaglen datblygu rygbi elitaidd ar gyfer bechgyn a merched, gan weithio’n agos gyda’r Scarlets, Undeb Rygbi Cymru, rhaglen Alltudion Cymru a Warden y coleg i gyflawni strategaethau recriwtio.
Bydd hefyd yn arwain ar yr holl elfennau tactegol a thechnegol ar gyfer tîm cyntaf Coleg Llanymddyfri, gan ddarparu cynlluniau unigol ar gyfer chwaraewyr rygbi elitaidd y Coleg.
Meddai: “Rwy’n gyffrous am y gobaith o helpu sefydliad rygbi mor hanesyddol â Choleg Llanymddyfri i ddatblygu’r rhaglen hon i helpu i ddod â’r genhedlaeth nesaf o dalent ifanc o Gymru i mewn i rygbi proffesiynol.
“Rydych chi’n edrych ar hanes y Coleg, sefydlodd Carwyn James, cyn hyfforddwr Llanelli a’r Llewod, Adran Cymru yno ac mae nifer o gyn-ddisgyblion wedi mynd ymlaen i gynrychioli’r Scarlets, Cymru a’r Llewod.
“Rwy’n gwybod o weithio gydag Academi’r Scarlets fod Coleg Llanymddyfri yn amgylchedd gwych i’w ddatblygu, nid yn unig fel chwaraewr rygbi, ond fel person hefyd.
“Ar lefel bersonol, mae gen i uchelgeisiau o hyd i hyfforddi mewn rygbi proffesiynol. Mae hwn yn gam arall yn fy ngyrfa hyfforddi ac rwy’n edrych ymlaen at ddod â fy mhrofiad o’r chwe blynedd diwethaf gyda’r Scarlets i’r rôl. ”
Ychwanegodd Warden Coleg Llanymddyfri, Dominic Findlay: “Rwy’n falch iawn o allu gweithio mewn partneriaeth gyda’r Scarlets i ddatblygu ymhellach y rhaglen rygbi a chefnogaeth yng Ngholeg Llanymddyfri. Mae hyn yn hynod gyffrous a bydd cael pobl fel Ioan Cunningham yn arwain ein rhaglen, ochr yn ochr â’r staff presennol, yn cael effaith enfawr i’n myfyrwyr. “
Dywedodd Rheolwr Cyffredinol y Scarlets, Jon Daniels: “Mae’r Scarlets wedi bod yn enwog ers amser maith am ddatblygu sêr y dyfodol a diolch i ragwelediad ac ymrwymiad Dominic Findlay a Bwrdd Coleg Llanymddyfri bydd ein partneriaeth yn cael ei chryfhau a byddant yn elwa o lygad y ffynnon drwy ddod i gysylltiad â rhaglen Academi Scarlets. ”
“Rydyn ni hefyd yn ffodus iawn o gael rhywun o brofiad Ioan i roi hwb cychwynnol i’r rhaglen. Mae’n hyfforddwr profiadol iawn sydd wedi datblygu yn ein llwybr ers blynyddoedd lawer. Mae ganddo ddyheadau uchel fel hyfforddwr a gwn ei fod yn ymhyfrydu yn yr her o fod yn y sedd boeth yng Ngholeg Llanymddyfri ar ddechrau’r siwrnai gyffrous hon.”