Scarlets yn paratoi ar gyfer enfawr yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop

vindicoNewyddion

Fe fydd y Scarlets yn wynebu Caerfaddon ym mhumed rownd Cwpan Pencampwyr Ewrop nos Wener yn gobeithio sicrhau buddugoliaeth er mwyn cadw’r ymgyrch Ewropeaidd yn fyw.

Gyda dwy fuddugoliaeth a phwynt bonws yn erbyn Benetton Rugby yn rownd tri a phedwar mae’r Scarlets wedi cadw’r ymgyrch yn fyw wrth wynebu’r rowndiau olaf, yn erbyn Caerfaddon a Toulon.

Mae Caerfaddon a Toulon yn hafal ar 13 pwynt gyda’r Scarlets yn y trydydd safle ar deuddeg pwynt.

Fe fydd buddugoliaeth dros Caerfaddon nos Wener yn caniatau i’r Scarlets ddod i’r rownd olaf gyda’r posibilrwydd o raddio i rownd yr wyth olaf.

Er gwaethaf tri buddugoliaeth dros y rhanbarthau Cymreig dros yr wyl mae’r prif hyfforddwr Wayne Pivac wedi dweud bod angen i’w dîm wella’i perfformiadau os ydyn nhw am sicrhau buddugoliaeth dros Gaerfaddon nos Wener.

Dywedodd; “Fe fyddwn ni’n ei gweld hi’n anodd os newn ni chwarae fel ry’n ni wedi yn y gemau diwethaf. Gyda’r newidiadau i gyd dros y deng diwrnod yna doedden ni ddim yn disgwyl i’r perfformiadau fod yn berffaith. Gyda wythnos cyfan o ymarfer bidden i’n disgwyl gweld gwelliant.

“Os na newn ni wella’n perfformiadau fe fyddwn ni’n ail yn y ras. Dyw e ddim yn le hawdd i fynd iddo. Mae’r ddau dîm yn deall bod lot i chwarae amdano. Mae yna dri tîm o fewn pwynt i’w gilydd ac mae’n gêm hanfodol bwysig i’r ddau dîm.

“Fe fydd yn achlysur cyffrous ac mae’n un ry’n ni’n edrych ymlaen ato.”

Fe fydd y Scarlets yn dychwelyd i Barc y Scarlets ar gyfer gêm olaf y grwp, yn erbyn Toulon, ar ddydd Sadwrn 20fed Ionawr, cic gyntaf 5.30YH.

Mae tocynnau ar gael nawr o eticketing.co.uk/scarletsrugby