Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod ein capten Ken Owens wedi’i benodi’n gynrychiolydd y chwaraewyr cyntaf ar Fwrdd y Scarlets.
Wrth i’r Scarlets symud ymlaen fel sefydliad, rydym yn teimlo ei bod yn hanfodol bod gan y chwaraewyr lais a phleidlais yn y broses benderfynu.
Esboniodd cadeirydd gweithredol y Scarlets Simon Muderack: “Rydyn ni bob amser wedi cael perthynas gref â’n chwaraewyr a bydd cael chwaraewr fel rhan o’n Bwrdd ond yn cryfhau’r perthynas hwnnw.
“Mae gennym mantra o ‘un tîm, un clwb’, ac mae gwahodd chwaraewr i ddweud ei ddweud yn ein penderfyniadau yn rhan fawr o hynny.
“Mae Covid-19 wedi dod â’r Scarlets hyd yn oed yn agosach at ei gilydd fel teulu – y rhanbarth, y gymuned, cefnogwyr, staff a chwaraewyr. Mae’n bwysig ein bod yn cynnal tryloywder a gonestrwydd o ran sut rydym yn symud ymlaen a bod pwrpas cyffredin hefyd gyda phawb yn rhannu’r un gwerthoedd.
“Mae’r chwaraewyr wedi prynu i mewn i hyn ac wedi penderfynu y byddai Ken yn eu cynrychioli ar y Bwrdd. Mae eisoes wedi mynychu cyfarfodydd a bydd ganddo bleidlais ar ran y garfan.”
Ychwanegodd Ken Owens: “Mae’n wych bod y Scarlets wedi cydnabod y dylai’r chwaraewyr gael llais a hefyd bleidlais yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw yn y pen draw. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r Bwrdd er budd y Scarlets a’r rhanbarth.”