Mae canolwr y Scarlets Scott Williams wedi’i alw i mewn i garfan Cymru ar gyfer gemau’r Hydref.
Mae Williams wedi perfformio’n gryf i’r Scarlets yn ystod gemau agoriadol y Bencampwriaeth Rygbi Unedig ac fe enillodd teitl seren y gêm yn dilyn y fuddugoliaeth yn erbyn Benetton penwythnos diwethaf.
Enillodd y chwaraewr 31 oed ei gap diwethaf yn ystod gêm baratoadol i Gwpan y Byd yn erbyn Iwerddon dwy flynedd yn ôl.
Mae Williams wedi’i alw i mewn i’r garfan yn lle Willis Halaholo sydd wedi derbyn canlyniad positif o Covid-19. Mae Halaholo yn hunan-ynysu i ffwrdd o garfan Cymru am 10 diwrnod. Mae URC yn gweithio’n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ar y mater hwn.