Sefydliad Cymunedol y Scarlets yn barod am Daith de Scarlets!

Aadil MukhtarNewyddion, Newyddion Cymuned

Mis nesaf, bydd Sefydliad Cymunedol y Scarlets yn cychwyn ‘Taith de Scarlets’ lle fyddwn yn seiclo i bob 53 clwb sydd o fewn ein rhanbarth.

Yn cychwyn o Barc y Scarlets ar y 9fed o Awst, bydd y tîm yn seiclo 350 o filltiroedd gan ymweld â phob clwb ar draws tair sir o Aberystwyth i Ty Ddewi a draw i’r Hendi.

Mae’r Sefydliad yn anelu at godi arian a fydd yn cael ei rhoi tuag at rygbi cymunedol a helpu clybiau gyda phrosiectau i helpu eu dychweliad at rygbi.

Bydd chwaraewyr y Scarlets a arwr y Crysau Duon Sean Fitzpatrick yn ymuno â’r tîm ar hyd y daith.

Dywedodd swyddog Gymunedol y Scarlets Rhodri Jones: “Gobeithiwn i godi arian i allu fuddsoddi nôl i mewn i’r clybiau gymundeol a clybiau merched gyda’u dychweliad i rygbi a partoadau am y tymor newydd. Hefyd, bydd yr arian yn cefnogi gwaith y sefydliad gan ddilyn ein ymgyrch pecynnau gofal yn ystod Covid-19.

“Mae mynd i fod yn sialens ond hoffwn i’r clybiau i ymuno â ni ar y daith.”

Lansiwyd Sefydliad Cymunedol y Scarlets yn 2020 ac maent yn estyniad elusennol o’r Scarlets.

Ewch i’n tudalen justgiving trwy glicio ar y ddolen a chyfrannwch beth chi’n gallu!!

https://www.justgiving.com/campaign/tourdescarlets

Am fwy o wybodaeth ar Daith de Scarlets e-bostiwch [email protected]