Cyn chwaraewr saith bob ochr Iwerddon a seren Love Island Greg O’Shea ymunodd a’r carfan ym Mharc y Scarlets ar gyfer sesiwn ymarfer ychydig gwahanol i’r arfer.
Cynrychiolodd Greg ei wlad yn Gemau Olympaidd Tokyo, ond yn cael ei adnabod fwyaf fel enillydd y rhaglen Love Island yn 2019.
Fel than o gyfres Youtube ‘Rugby Fit’ World Rugby, mae Greg yn ymweld â chlybiau ar draws Ewrop a De Affrica i dreialu gwahanol agweddau o ‘pre-season’.
Yn barod wedi ymweld â Perpignan yn Ne Ffrainc, Newcastle Falcons, EdInburgh ac wedi rhwyfo gyda’r Ealing Trailfinders, mae Greg wedi profi tipyn o bopeth erbyn heddiw.
Ym Mharc y Scarlets fe ddaeth i nabod y chwaraewr yn dda wrth iddo gymryd rhan mewn sesiwn reslo.
Mae’r Scarlets wedi derbyn hyfforddiant trwy cynnal sesiynau dwywaith yr wythnos am y pedair wythnos diwethaf o dan arweiniad pencampwr Ewropeaidd Ash Williams a’i gydhyfforddwyr o glwb Draig Abertawe. Mae’r cwmni Tatami Fightwear sydd wedi’i leoli yn Ne Cymru wedi rhoi eu cynnyrch i’r carfan i’w ddefnyddio yn ein arena ymarfer dan do.
Dywedodd Greg: “Dyna oedd un o’r pethau mwyaf anodd dwi wedi ei wneud, dw i wedi bod yn y maes rygbi am 10 mlynedd ac erioed wedi wneud unrhyw fath o reslo felly roedd hynny’n her newydd i mi. Mwynheais yn fawr, roedd awyrgylch da ymysg y bois Scarlets.”
Cadwch lygad mas ar sianel YouTube World Rugby a’u chyfryngau cymdeithasol am y fideo llawn dros yr wythnosau nesaf.