Siaradodd Dwayne Peel i’r wasg o flaen gêm Caerdydd ar Ddydd San Steffan yn erbyn Caerdydd ym Mharc yr Arfau – gêm cystadleuol cyntaf y Scarlets ers Hydref 22.
Dyma beth oedd gan y prif hyfforddwr i ddweud.
Dwayne, sut wyt ti, beth yw’r diweddaraf?
DP: “Fe wnaeth fy wraig profi’n bositif am Covid wythnos diwethaf felly credais fy mod wedi ei osgoi a dod bant â hynny. Es i ddim i’r gwaith wythnos diwethaf gan hyfforddi o bellter ond yn anffodus dw i wedi profi’n bositif ar ôl hynny. Mae’r pedwar ohonom gyda’r feirws, felly byddwn yn hunan ynysu dros y Nadolig yn anffodus.”
Byddyd di’n hyfforddi o bellter ar Ddydd San Steffan neu fydd un o dy hyfforddwyr yn cymryd yr awennau?
DP: “Mae’n rhaid iddyn nhw i gymryd yr awennau. Dw i wedi rhoi fy marn dros yr wythnos ar beth sy’n mynd ymlaen, a beth sydd angen gwneud. Wrth i ni beidio chwarae am gymaint o amser, rydym wedi llwyddo cael sesiynau hyfforddi ac mae’r gwaith da wedi’i wneud. Dw i wedi bod yn cadw llygaid dros yr wythnos ac mae’r bois yn ysu i chwarae. Mae gymaint o amser wedi mynd heibio ers i ni chwarae felly bydd y gêm yma’n enfawr i ni.”
Ydy hi’n deimlad siomedig i orfod colli mas ar ôl popeth sydd wedi mynd ymlaen gyda’r cwarantin dros yr wythnosau diwethaf?
DP: “Wrth gwrs, dw i wedi bod yn edrych ymlaen at gael hyfforddi eto ar ddiwrnod gêm ond dyma’r realiti ac rwy’n siwr nid y tro yma fydd y diwetha’, gyda’r ffordd mae popeth yn mynd ar y funud. Mae’r bois yn mynd yn dda a dyna beth sy’n bwysig i ni eu bod nhw’n gallu chwarae.”
Sut mae’r garfan o ran Covid s ffitrwydd yn gyffredinol?
DP: “Mor belled, i ni wedi bod yn lwcus. Mae yna rownd arall o brofion PCR heddi’ felly byddwn yn ffeindio mas yn y bore. Rydym wedi bod yn ok mor belled – fe lwyddon i osgoi’r holl Covid yn Ne Affrica ar ôl dod nôl. Y realiti yw bydd yna profion bositif, ond mae’n bwysig i ni i leihau’r risg. Rydym yn trial ein gorau i osgoi, ond gyda’n sefyllfa yma weithiau mae’n anochel. Bydd rhaid addasu a goresgyn pan fydd angen. Rydym yn gwneud ein gorau glas o ran safonau.
Oes yna rhwystredigaeth ychwanegol gyda’r gêm yn cael ei chwarae tu ôl drysau?
DP: “Y realiti yw dyma’r gemau rydych yn edrych ymlaen at fel chwaraewr. Dw i wedi bod yna fy hun ac mae’r darbiau Nadolig yn amser sbesial i bawb. I beidio â chael unrhyw gefnogwyr yn y stadiwm yn siom enfawr. O safbwynt y clwb, mae wedi cael ei leisio’r wythnos hon y difrod o ran arian a ddaw (heb gael torf) o’r gemau hynny. Mae yna lawer i’w chwarae yn y gemau hyn. O safbwynt chwarae, rydyn ni am gael torfeydd. Darllenais rywbeth a ddywedodd Lee Blackett o’r Wasps, faint yn uwch yw’r dwyster gyda thorf sydd wedi gwerthu allan. Rydyn ni wedi arfer ag e, fe wnaethon ni chwarae tymor heb dyrfaoedd. Nid yw’n ddelfrydol i unrhyw un. Yn anffodus, dyna ydyw. Y peth mawr i ni yw ein bod ni’n paratoi’n dda ac, o ochr feddyliol, rydyn ni wedi troi ymlaen oherwydd eu bod nhw’n gemau mawr yng nghyd-destun ein tymor a’n cymhwyster ar gyfer Ewrop. Mae yna lawer i chwarae yn y gemau hyn. ”
Dim torf on digon i gael y bois yn barodi fynd?
DP: “Mae sawl cyn-Scarlet gyda Caerdydd – Kirby (Myhill), (Rhys) Priestland, Josh (Turnbull) hefyd, Will Boyde, Josh Adams – felly dw i’n siwr bydd y bois yn barod iawn i wynebu nhw. Mae’r cyfnod diwethaf wedi bod yn siomedig i orfod canslo pedwar gêm. Roeddwn mewn safle da cyn Tachwedd. Bydd y bois yn sicr yn barod. Dw i’n dychmygu bydd y ddau ochr ychydig yn ‘rusty’ i ddechrau, ond dyna’r realiti, ond mae’n bwysig i ni i fynd allan ac i ailgychwyn ein gemau cystadleuol. I ni, mae’n bwysig i fynd mas ar y cae. Rydym yn ysu am gêm. Y peth pwysig i ni yw i gael gêm cystadleuol eto.”