Y prop Steffan Thomas ydy’r chwaraewr diweddaraf i arwyddo cytundeb newydd i’r Scarlets.
Mae’r prop pen rhydd, sydd yn dathlu ei benblwydd yn 25 oed heddiw (Dydd Gwener), wedi mwynhau sawl ymddangosiad i’r garfan hyn yn ystod y tymor, gan ymddangos naw o weithiau a wedi’i enwi yn y XV i ddechrau wyth o weithiau.
O deulu fferm, chwaraeodd Thomas ei rygbi cynnar i Glwb Rygbi Castell Newydd Emlyn. Roedd yn ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Teifi ac fe aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg Sir Gar tra’n rhan o Academi’r Scarlets.
Wedi’i gapio i Gymru o dan 18 a 20, chwaraeodd yn y Gynghrair Cymraeg i Gwins Caerfyrddin ac mae wedi brwydro nôl o anafiadau i’w benglin yn gynnar yn ei yrfa proffesiynol i sefydlu ei hun yng ngharfan y Scarlets.
“Dwi’n mwynhau chwarae’n gyson a teimlo fy mod i wedi gwella fy ngêm ar hyd y tymor,” dywedodd.
“Mae’n wych i gael hyfforddwr fel Ben Franks yma, rhywun sydd wedi ennill Cwpan y Byd gyda’r Crysau Duon, i ddysgu wrth ynghyd â’r chwaraewyr rhyngwladol sydd yn helpu mentora’r bois ifanc sydd yn datblygu trwy’r clwb.
“Rydym wedi gwynebu sgrymiau mawr yn y tymor, yn enwedig pan aethon i Dde Affrica – roedd eu rheng flaen llawn chwaraewyr Sprinbok pan aethon yn erbyn y Sharks – ond credaf ein bod yn dal ein hun yn dda ac mae llawer mwy i ddod eto.
“Gennym tair gêm ar ôl a gobeithio fe allwn orffen ar frig y timau Cymraeg.”
Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Steff ydy un o sawl chwaraewr ifanc addawol sydd gennym yn y clwb.
“Mae’r bois yna i gyd wedi codi’r safon ac mae’n wych i weld y cynnydd o’r grwp.
“Mae chwaraewyr fel Steff yn gwthio’r chwaraewyr rhyngwladol am safleoedd cychwynol ac mae hynny yn peth da. Rwy’n edrych ymlaen at weld sut mae Steff yn parhau i ddatblygu dros y flynyddoedd i ddod.”
Noddwyr Steff yw JE Rees and Sons.
Mae Steff yn ymuno â nifer o chwaraewyr sydd wedi cytuno ar gytundebau newydd gan gynnwys Sam Lousi, Scott Williams, Rhys Patchell, Johnny McNicholl, Ryan Conbeer, Sam Costelow a Gareth Davies.