Steps: Manylion Diogelwch Parc y Scarlets

Kieran LewisNewyddion

Ein prif flaenoriaeth yw diogelwch ein holl ymwelwyr. Gyda’r digwyddiadau trasig diweddar yn y DU, rydym yn adolygu ein gweithdrefnau diogelwch yn y stadiwm yn barhaus. Rydym yn cydweithio’n agos â Heddlu Dyfed-Powys, y Grŵp Cynghori Diogelwch a’n partneriaid lleol i sicrhau bod lefel cydlynol a phriodol o ddiogelwch ar waith ar gyfer pob digwyddiad.

Mae ein timau diogelwch a stiwardio yno ar gyfer eich diogelwch. Cydweithiwch yn llawn gyda’r holl bersonél diogelwch.

Polisi bagiau

Oherwydd y sefyllfa diogelwch sydd heb ei debyg ar hyn o bryd, mae’n well i bawb os nad ydych chi’n dod â bag o gwbl. Ni fyddwn yn caniatáu bagiau mawr i mewn i’r stadiwm ond cewch chi fynd â bagiau bach a bagiau llaw gyda chi. Rydym yn dosbarthu bagiau bach nad ydynt yn fwy na 35cm x 40cm x 19cm neu fagiau llaw safonol. Nid oes cyfleusterau storio bag ar gael yn y stadiwm – cynlluniwch ymlaen os ydych chi’n bwriadu teithio gyda bag mawr.

Paratoi ar gyfer chwiliad corff a bag

  • Gorffenwch unrhyw fwyd a diod cyn mynd i mewn i’r stadiwm, ni chewch chi fynd â’r rhain gyda chi
  • Ewch i’r giat a nodir ar eich tocyn ac ymuno â’r ciw
  • Byddwch yn barod ar gyfer chwiliad corff a bag ac i ateb unrhyw gwestiynau

Cadw chi’n ddiogel

Mae yna lawer o fesurau diogelwch gweladwy y gallwch eu gweld tra yn y stadiwm ac o gwmpas y stadiwm a rhai na fyddwch chi;

  • Mae pob digwyddiad yn fygythiad a asesir gan Heddlu Dyfed-Powys ac mae adnoddau’r heddlu priodol wedi’u sefydlu yn ac o gwmpas Parc y Scarlets, a all gynnwys Heddlu Arfog
  • Ynghyd â’n staff stiwardio hyfforddedig, mae gennym system CCTV gynhwysfawr a monitro’n barhaus ar waith bob amser
  • Bydd cerbydau sy’n mynd i mewn i’r maes parcio prif stadiwm yn ddarostyngedig i chwiliadau, a gynhelir gan bersonél diogelwch hyfforddedig a chwn sniffer