Mae’r Scarlets yn falch o gyhoeddi y cwmni Gorllewin Cymru Sterling Construction fel partneriaid cit am dymor 2024-25.
Mae Sterling wedi bod yn rhan o deulu masnachol y Scarlets ers 2021 ac yn noddwyr chwaraewyr balch iawn o’n chwaraewr rhyngwladol Jonathan Davies. Bydd logo Sterling yn ymddangos ar ysgwydd cit cartref ac oddi cartref y Scarlets tymor nesaf.
Fe aeth Jonathan a chapten y clwb Josh Macleod i ymweld â brosiectau diweddar Sterling, cartref gofal 84 gwely yn Llwynhendy ar gyfer cleient P&M Estated Ltd – tafliad carreg i ffwrdd o Barc y Scarlets. Fe ymwelwyd hefyd â un o brosiectau Sterling yn Cross Hands, swydda newydd sydd yn derbyn cyllid o Gronfa Datblygu Eiddo Masnachol Trawsnewidiol Sir Gaerfyrddin.
Mae gan Sterling hysbysfwrdd tu fewn i Barc y Scarlets, ac mae’r cwmni yn rhan o Glwb Busnes y Scarlets.
Dywedodd Pennaeth Masnach y Scarlets Garan Evans: “Mae Sterling yn fusnes Gorllewinol balch gyda’i chalon yn y gymuned, yn debyg iawn i’r Scarlets. Mae’r cwmni wedi bod yn gefnogwyr arbennig o’r Scarlets dros y blynyddoedd ac o ‘Foxy’ yn ystod ei tymhorau olaf gyda ni. Diolch enfawr i Sterling am eu cefnogaeth barhaus, ac edrychwn ymlaen at groesawu Gary, Simon a’r tîm nôl i Barc y Scarlets tymor nesaf.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Sterling Gary Evans: “Mae’n bleser enfawr i ni barhau i gefnogi’r Scarlets, un o’r clybiau rygbi sy’n rhoi’r mwyaf i’w gymuned yn y wlad. Rydym yn falch iawn i gryfhau ein partneriaeth ymhellach.”
Ychwanegodd Simon Thomas, cyfarwyddwr Sterling, “Rydym wrth ein bodd i barhau i noddi’r clwb ac yn edrych ymlaen at weld y tîm yn chwarae gyda’n logo ar y crys tymor nesaf.”
Am fwy o wybodaeth ar Sterling Construction ewch i’r gwefan swyddogol HERE
I fod yn bartner i’r Scarlets tymor nesaf neu i ddysgu mwy am fod yn rhan o deulu masnachol y Scarlets cysylltwch â [email protected]
Jonathan Davies a Josh Macleod gyda chyfarwyddwr Sterling Construction Gary Evans a Simon Thomas.