Taine Plumtree wedi’i alw i garfan Cymru

Rob LloydFeatured

Chwaraewr rheng ôl y Scarlets Taine Plumtree sydd wedi’i alw i garfan Chwe Gwlad Cymru o flaen yr ail roenf o’r bencampwriaeth yn Rhufain ar ddydd Sadwrn.

Mae Plumtree, sydd yn barod gyda chwe cap i Gymru, sydd yn dod i mewn yn lle Aaron Wainwright, sydd wedi derbyn anaf i’w wyneb yn munudau agoriadol y gêm yn erbyn Ffrainc ym Mharis ar nos Wener.

Mae’r chwaraewr 24 oed yn ymuno â’r garfan yn y gwersyll ymarfer yn Ne Ffrainc.

Canolwr y Gweilch Owen Watkin sydd yn parhau i’w gael ei asesu ar anaf penglin o gêm nos Wener.

Cyn brop y Scarlets WillGriff John (Sale Sharks) sydd wedi ailymuno a’r garfan yn Nice.

Collodd Cymru o 43 pwynt i 0 yn Stade de France gyda asgellwr y Scarlets Tom Rogers a’r prop Henry Thomas yn y XV i ddechrau, gyda Blair Murray yn dod oddi’r fainc i ennill ei bedwaredd cap Prawf.