Taith o amgylch Belfast gyda Thomas Cook Sport

Menna IsaacNewyddion

Ydych chi’n teithio i Belfast dros y penwythnos i’n cefnogi ym mhedwerydd rownd Cwpan Pencampwyr Heineken dros y penwythnos? Dilynwch taith dinas Thomas Cook Sport!

Mae Belfast yn gartref i stadiwm 18,196-seddi Ulster. Mae’r ddinas yn un o drysprau Ewrop ac mae brif ddinas Gogledd Iwerddon bellach yn gartref i sêr Michelin, caffis ffasiynol a mannau gwych i yfed.

Dechreuwch ar eich taith yn Neuadd y Ddinas Belfast, gallwch fynd â daith gerdded am ddim o amgylch yr adeilad, lle cewch chi ddysgu am orffennol gwleidyddol y ddinas a chlywed straeon hyfryd o goridorau trawiadol yr adeilad. Fe welwch waith gwych o wydr lliw a dysgu am hanes y ddinas, ewch i’r gerddi ar ôl y daith i ymweld â chofeb i dreftadaeth diwydiannol enwocaf y ddinas, y Titanic.

Milltir i’r de o Neuadd y Ddinas, fe welwch Gerddi Botaneg Belfast, sydd wedi’i lleoli ger Brifysgol y Frenhines, mae’r parc yn gartref i enghraifft glasurol o dai gwydr Fictorianaidd. Roedd wyneb gwydr crwm y strwythur yn hynod o dechnegol ar gyfer ei amser ac roedd yn golygu bod garddwrwyr Fictoraidd yn gallu tyfu planhigion egsotig yn yr hinsawdd yn y DU yn y DU.

Parhewch ar grwydr i Sgwâr CS Lewis, wedi’i neilltuo i awdur The Lion, Witch and the Wardrobe a anwyd yn y ddinas, ac mae’r ardd yn gartref i gerfluniau o gymeriadau enwocaf yr awdur.

Mae Belfast yn enwog am fod yn man geni’r RMS Titanic, suddodd y llong byd-enwog ar ei thaith cyntaf ond mae wedi datblygu’n ddelwedd eiconig enwog o orffennol diwydiannol y ddinas. Archwiliwch yr iard llongau lle adeiladwyd y llong, byddwch chi’n profi golygfeydd, synau ac arogleuon taith y Titanic o Belfast i’r Môr yr Iwerydd. Mae’n rhaid ymweld os ydych yn hoff o’r ffilm neu’r hanes!

Y tu allan i Belfast i mewn i gefn gwlad anhygoel Gogledd Iwerddon, mae teithiau o leoliadau Game of Thrones ac mae taith gerdded ar glogwyni Gobbins yn brofiad bythgofiadwy.