Mae ail reng y Scarlets Tevita ‘Tex’ Ratuva wedi’i henwi mewn carfan deithiol Fiji bwerus ar gyfer Cwpan Cenhedloedd yr Hydref sydd ar ddod.
Mae Tex wedi cael ei ddewis mewn carfan 32 dyn sydd hefyd yn cynnwys seren Bristol Bears Semi Radradra, blaenwr Gwyddelig Llundain Albert Tuisue a phwerdy Toulon, Josua Tuisova.
Bydd y garfan yn mynd i’r gwersyll ar Hydref 25 wrth baratoi i wynebu Ffrainc ar Dachwedd 15, yr Eidal ar Dachwedd 21 a’r Alban ar Dachwedd 29 yn BT Murrayfield.
Bydd y Fijians hefyd yn chwarae Portiwgal ar Dachwedd 6 fel gêm cynhesu i Gwpan Cenhedloedd yr Hydref.
Mae Tex yn ei ail dymor gyda’r Scarlets wedi bod yn rhan o garfan Fiji yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2019.