Mae’r chwaraewr ail-reng Tevita Ratuva yn dychwelyd i Fiji i fod gyda’i deulu, gan ddod a’i amser yn Llanelli i ben.
Chwaraeodd Tex ei gêm ddiwethaf i’r Scarlets ar nos Lun, gan ddod oddi’r fainc i chwarae ei rhan mewn ail hanner bythgofiadwy yn erbyn Connacht.
Cafodd ei fab Iliesa ei eni wythnos diwethaf ac mae Tex yn dychwelyd i Fiji i fod gyda’i deulu cyn ymuno â chlwb Brive tymor nesaf.
Mae Tex, a gynrychiolodd Fiji yng Nghwpan y Byd 2019, wedi chwarae 21 gêm mewn un tymor i’r Scarlets ac yn aelod poblogaidd iawn o’r garfan.
Dywedodd y prif hyfforddwr Glenn Delaney: “Rydym wedi dwli cael Tex yma, yn sicr mae wedi gadael ei farc ar y clwb. Cafodd ei fab ei eni wythnos diwethaf felly mae angen iddo fod gyda’i deulu i gefnogi nhw. Mae pawb yma yn y Scarlets yn dymuno’r gorau iddo ef a’i deulu.”