Tîm y Scarlets i wynebu Caeredin

Kieran LewisNewyddion

Fe fydd y Scarlets yn wynebu Caeredin ym Murrayfield prynhawn Sadwrn yng ngêm olaf ond un y tymor arferol.

Fe fydd y rhanbarth, sy’n yr ail safle yn Adran B, yn gobeithio parhau â’r momentwm buddugol prynhawn Sadwrn er mwyn sicrhau gêm gartref yn y rowndiau ail gyfle.

Mae Leinster, sydd ar y brig yn Adran B, pedwar pwynt ar y blaen ar y Scarlets gyda Chaeredin chwech pwynt tu ôl i’r rhanbarth yn y drydedd safle. Fe fyddai buddugoliaeth i’r Scarlets bron yn siwr o sicrhau gêm gartref rownd ail gyfle gyda gêm Dydd y Farn yn erbyn y Dreigiau yn unig ar ôl.

Gyda’r Scarlets yn dal yn y ras yn Ewrop hefyd mae’r prif hyfforddwr Wayne Pivac wedi gwirdroi’r garfan gyda rownd cyn derfynol Ewrop ar y gorwel penwythnos nesaf.

Wrth edrych ymlaen i’r gêm yn erbyn Caeredin dywedodd Pivac; “Mae gyda ni her fawr arall o’n blaenau ac ry’n ni’n edrych ar bethau o wythnos i wythnos. Mae’n her ond mae’n gyffrous.

“Mae’n brawf go iawn o ddyfnder ein carfan ar hyn o bryd. Roedd yn bwysig i ni sicrhau canlyniad dros Glasgow a’r ffocws yn awry w canolbwyntio ar yr hyn ry’n ni’n gallu effeithio.

“Ry’n ni’n disgwyl gêm anodd. Mae gan Gaeredin chwarae gosod cryf ac maent yn dîm da. Dyw e ddim yn le ry’n ni wedi gwneud yn dda iawn ynddo chwaith ers i mi fod yma.”

Tîm y Scarlets i wynebu Caeredin, Sadwrn 14eg Ebrill, cic gyntaf 15:15, Murrayfield;

15 Rhys Jones, 14 Tom Varndell, 13 Ioan Nicholas, 12 Steff Hughes ©, 11 Ryan Conbeer, 10 Dan Jones, 9 Aled Davies, 1 Dylan Evans, 2 Ryan Elias, 3 Werner Kruger, 4 Steve Cummins, 5 David Bulbring, 6 Lewis Rawlins, 7 Josh Macleod, 8 Will Boyde

Eilyddion; 16 Taylor Davies, 17 Phil Price, 18 Simon Gardiner, 19 Josh Helps, 20 Shaun Evans, 21 Jonathan Evans, 22 Corey Baldwin, 23 Tom Rogers