Chwaraewyr y dyfodol o rhanbarth y Scarlets cafodd y profiad anhyoel o ymarfer gyda’r Crysau Duon mewn sesiwn boreol o flaen gêm Seland Newydd yn erbyn Cymru.
Fe wahoddodd y Crysau Duon timau o’r rhanbarth i Glwb Rygbi Old Penarthians, lle roedd Seland Newydd yn ymarfer cyn y gêm yn Stadiwm y Principality, ac fe mwynhaodd clybiau Crwydriaid Llanelli, Cydweli, Nantgaredig a San Clêr bob munud o’r profiad.
Yn ogystal â derbyn hyfforddiant gan sêr fel Brad Webber, Hoskins Sotutu, a Nepo Laulala, roedd y chwaraewyr ifanc hefyd yn cael y cyfle i dynu lluniau a chael llofnodion wrth y dynion, gan gynnwys y capten Sam Whitelock a seren yr olwyr Beauden Barrett, cyn dychwelyd nôl i Lanelli.
Dywedodd Pennaeth Marchnata’r Scarlets Trudy Waters: “Roedd hi’n bore wych i’r plant, rhieni a hyfforddwyr i gwrdd â’r Crysau Duon ac i ni’n ddiolchgar iawn i’r carfan am adael i hyn i ddigwydd. Roedd hi’n brofiad anhygoel i bawb ac rwy’n siwr yn fythgofiafwy i’r plant.”