Fe mwynhawyd y ddau dîm D17 y Scarlets buddugoliaethau yn erbyn eu gelynion y Gweilch yn ystod gemau agoriadol yr ymgyrch gradd oedran.
O flaen cynulleidfa ar gae ymarfer Parc y Scarlets, enillodd tîm Dwyrain y Scarlets yn erbyn tîm Gorllewin y Gweilch o 40 i 12.
Y cefnwr Dylan Callender, bachwr Harry Thomas a’r prop Joshua Morse groesodd y llinell i sgori – a wedi’i trosi gan faswr Sam Potter – i sicrhau mae’r tîm cartref oedd gyda rheolaeth y gêm o 21-5 ar yr hanner. Parhawyd y Scarlets i ddomineiddio yn yr ail hanner gyda’r canolwr Corey Morgan, asgellwr Matthew Williams a’r clo Jac Gaines yn ychwanegu at y pwyntiau, a’r dau gais wedi’i trosi gan Potter.
Yng Nghlwb Rygbi San Clêr, llwyddodd tîm Gorllewin y Scarlets i sgori 10 gais yn ystod buddugoliaeth egniol 62-17.
Croesodd y canolwr Macs Page am dri gais, y prop Alfie Fecci-Evans yn croesi am ddau, wrth i’r canolwr James Price, asgellwr Gethin Davies, yr eilydd Steffan Jac Jones, cefnwr Harry Fuller a’r bachwr Mason Lees i gyd yn ychwanegu at y pwyntiau. Fuller (4), Page a Jones yn ychwangeu at y trosiadau.
Mae’r ddau ochrau yn chwarae eto wythnos nesaf wrth i dîm Dwyrain y Gweilch chwarae tîm Dwyrain y Scarlets, a thîm Gorllewin y Gweilch yn gwynebu tîm Gorllewin y Scarlets.