Mae tocynnau nawr ar werth ar gyfer ein gêm gyfeillgar gyntaf o’r tymor yn erbyn Bristol Bears ar Ddydd Gwener, Medi’r 2.
Efallai mae hyn bydd y cyfle cyntaf i chi weld ein chwaraewr newydd Vaea Fifita yng nghrys Scarlets, heb sôn am ein chwaraewyr cyffroes ifanc.
Wrth gofio’r gêm gofiadwy diwethaf yn erbyn Bryste – 10 cais yng ngêm Cwpan Pencampwyr ym mis Ionawr – fe ddyle’r gêm gyfeillgar fod yn un gyffroes gyda’r ymwelwyr yn cyrraedd Llanelli gyda bws llawn talent sy’n cynnwys seren y Crysau Duon a Tonga Charles Piutau a Semi Radradra o Fiji.
Bydd mynediad yn £10 ar gyfer oedolion a £5 i ddeiliaid aelodaeth tymor. Mynediad i blant rhwng chwech a 16 am £2 gyda mynediad am ddim i blant o dan chwech oed. Ni fydd seddi yn cael eu cadw yn Stand De.
Gallwch brynu eich tocynnau YMA neu trwy’r Swyddfa Docynnau naill ai yn y stadiwm neu dros y ffôn ar rif 01554 292939.